Beth wyt ti'n edrych am?
The ELO Experience
Dyddiad(au)
03 Hyd 2023
Amseroedd
19:30 - 22:00
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Nid oes angen unrhyw gyflwyniad ar Jeff Lynne a’r Electric Light Orchestra – digon yw dweud eu bod, rhwng 1972 a 1986 wedi cyflawni mwy o ganeuon llwyddiannus rhwng y DU a’r UD yn rhestrau’r 40 gorau nag unrhyw fand arall ar y blaned! Aeth ‘10538 Overture’, ‘Evil Woman’, ‘Living Thing’, ‘Diary of Horace Wimp’, ‘Don’t Bring me Down’ ac wrth gwrs ‘Mr Blue Sky’ ymlaen i fod yn drac sain ein bywydau.
Yn 2016 daeth ELO Jeff Lynne yn ôl i’r amlwg wrth ryddhau albwm newydd sbon – Alone In The Universe, a thaith o amgylch y DU a’r Byd. Bydd y daith The ELO Experience yn cynnwys y caneuon mwyaf llwyddiannus ô gatalog helaeth a thrawiadol sy’n ymestyn dros 45 mlynedd.
Yn cyfuno rhythmau roc â dylanwadau clasurol, rhyddhaodd ELO lawer o albymau clasurol hefyd fel ‘A New World Record’, ‘Discovery’ ac ‘Out of the Blue’, a llawer o deithiau lle y gwerthwyd pob tocyn a’u sefydlodd ymhellach fel un o’r bandiau pwysicaf a mwyaf dylanwadol erioed.
The ELO Experience – Teyrnged fwyaf blaenllaw’r byd i’r Electric Light Orchestra. Gydag adran linynnol fendigedig, sioe goleuadau syfrdanol a thafluniad sgrin fawr. Beth am ddod draw i fwynhau’r sioe anhygoel hon sy’n mynd â chi ar daith gerddorol hudolus drwy amser.