Neidio i'r prif gynnwys

The First XXXmas: A Very Naughty-tivity

Dyddiad(au)

05 Rhag 2023 - 31 Rhag 2023

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Gwisgwch eich cyfrwy asynnod bach! Mae’n amser am reid arall.

Mae’r tîm a gyflwynodd eu sioeau cabaret Nadolig a werthodd allan, sef XXXmas Carol a The Lion, The B!tch and The Wardrobe, yn ôl gyda’u ffiasgo Nadoligaidd olaf. Tri chynnig i Gymro.

A pha ffordd well o dreulio eu Nadolig olaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru na drwy ddathlu stori’r un cyntaf erioed: drama’r geni.

Yn ymladd dros y prif rannau fydd Polly Amorous, Jenna Dyckhoff, Rahim El Habachi, FooFoo LaBelle, Eric McGill a Bunmi Odumosu, a fydd yn cyflwyno eu cymysgedd arferol o syrcas syfrdanol, bwrlésg bendigedig a drag disglair. Bydd yn bendant yn ddiweddglo i’w gofio.

Nid drama’r geni arferol mo hwn – gallwch chi ddisgwyl bugeiliaid digywilydd, angylion yn camymddwyn a gwaith coed sydd ychydig yn gnawdol gan Joseff. Bydd y sbectacl Nadoligaidd amgen yma yn gwneud i chi chwerthin a dyheu am fwy!

18+ yn unig. Gadewch y plant adref.