Beth wyt ti'n edrych am?
Y Ganred – Tân Cymreig v Oval Invincibles
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae timau dynion a merched Tân Cymreig yn ôl wrthi’r haf hwn wrth i gystadleuaeth ddiweddaraf y byd criced ddychwelyd i wefreiddio torfeydd gyda chriced mwy cyflym ac adloniant llawn cynnwrf i bob oedran. Tîm dynion Tân Cymreig fydd yn herio’r pencampwyr Southern Brave mewn gêm agoriadol annibynnol.
Oherwydd cynnwys criced i fenywod yn rhaglen Gemau’r Gymanwlad, bydd cystadleuaeth can pelen ‘Y Ganred’ y merched yn dechrau ychydig ddyddiau ar ôl y dynion eleni. Fodd bynnag, bydd gweddill y gemau yn dychwelyd i’r fformat gêm ddwbl poblogaidd, gyda thimau dynion a menywod yn chwarae ar yr un diwrnod – gyda thocynnau’n rhoi hawl i gefnogwyr wylio’r ddwy gêm.
Paratowch at ail flwyddyn yn llawn gweithgareddau Y Ganred yng Ngerddi Sophia, Caerdydd.
Dynion – 2:30pm