Neidio i'r prif gynnwys

The Makropulos Affair

Dyddiad(au)

16 Med 2022 - 28 Med 2022

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Beth pe baech yn gallu byw am byth?

Mae’r difa enigmatig Emilia Marty yn edrych yn dda o ystyried ei hoedran. A chyfrinach ei hieuenctid yw elicsir hudolus o fywyd a gymerodd ganrifoedd yn ôl. Ers dros 300 o flynyddoedd, mae wedi byw sawl bywyd – gan symud ar draws Ewrop, newid ei henw a thorri calonnau ar hyd y daith – wrth iddi ddilyn awydd i fod y gantores orau erioed. Ond wrth i’r elicsir ddechrau pylu, a fydd hi ar dân i ddod o hyd i’r ateb am ieuenctid di-ben-draw?

Byddwch yn barod i gael eich meddiannu gan un o storiâu dirgelwch mwyaf cyffrous opera, The Makropulos Affair, sy’n ein harwain ar daith i ddatgelu hunaniaeth go iawn y ferch gyfareddol hon. Dan arweiniad Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Tomáš Hanus, mae sgôr hynod ddramatig Janáček yn ychwanegu at y dirgelwch, gan eich gadael i bendroni, tybed a all anfarwoldeb ddod â hapusrwydd go iawn, neu ai melltith ydyw?

#WNOmakropulos

Gwe 16 Med
Gwe 23 Med
Mer 28 Med

Dyddiadau'r Digwyddiad

16Med - 19:15 The Makropulos Affair
23Med - 19:15 The Makropulos Affair
28Med - 19:15 The Makropulos Affair