Beth wyt ti'n edrych am?
The Ronnie Scott’s Story
Dyddiad(au)
03 Hyd 2023
Amseroedd
19:30 - 21:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Yn syth o glwb jazz enwog Llundain ac yn cyfuno jazz byw o’r radd flaenaf, naratif, ffotograffau prin o’r archif a darnau ffilm, mae The Ronnie Scott’s All Stars yn camu i’r llwyfan i ddathlu ‘The Ronnie Scott’s Story’.
Wedi’i osod ymhlith ffau a chlybiau jazz Soho yn Llundain, byddwn ni’n clywed am gyllid wrth fin y gyllell y blynyddoedd cynnar a chyrchoedd niferus yr heddlu. Byddwn ni’n clywed sut ddaeth Ronnie’s yn dir niwtral o fewn tiriogaeth gangiau a’u helyntion gyda gangsteriaid gan gynnwys y Krays. Caiff bywyd yn Ronnie’s ei ailddychmygu mewn ffordd atgofus drwy hanesion ymwelwyr â’r clwb, o sêr pop, sêr ffilmiau a gwleidyddion i ddigrifwyr ac aelodau o’r teulu brenhinol, ond yn fwy na dim, y cerddorion…
Gan gymysgu cerddoriaeth enwog gan oreuon y byd jazz sydd wedi perfformio yn Ronnie Scott’s ers iddo agor 60+ mlynedd yn ôl, ochr yn ochr â straeon am hen Soho, cerddorion drygionus a chyrchoedd yr heddlu, dyma noson unigryw sy’n dathlu un o leoliadau jazz mwyaf enwog y byd, ei gerddoriaeth, a’i hanes.