Beth wyt ti'n edrych am?
Tropicana
Dyddiad(au)
29 Med 2023
Amseroedd
20:30 - 22:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Ymunwch â’r eicon cabaret cwiar arobryn Aidan Sadler wrth iddyn nhw fynd â chi i Tropicana!
Does dim byd yn ddiogel rhag gwatwar felly dewch i gael eich arwain ar archwiliad o ddelwedd corff, heteronormadedd a gwisgo ffrog o amgylch y tŷ weithiau ar ddiwrnod trymaidd.
Yma, byddwch chi’n profi nostalgia synth-pop swnllyd gyda chomedi stand-yp o’r radd flaenaf. Gyda chaneuon gwefreiddiol o Spandau Ballet i ABC, dyma’r perfformiad cyntaf o Tropicana yng Nghymru ar ôl dau rediad llwyddiannus yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, taith genedlaethol a chyfnod yng nghanol Llundain, a bydd yn archwilio, plygu a chamddefnyddio’r system ddeuaidd rhywedd.