Beth wyt ti'n edrych am?
Tyst i Gymru
Dyddiad(au)
07 Med 2024 - 02 Tach 2024
Amseroedd
10:30 - 16:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae ‘Tyst i Gymru’ yn astudiaeth hirdymor o gymuned a chenedligrwydd, a grëwyd drwy gyfres o deithiau ar draws y wlad. Mae’r gwaith yn cynnwys tirweddau a phortreadau, gyda’r portreadau wedi’i gwneud ar y cyd â llawer o gymunedau; o ffoaduriaid sydd newydd gyrraedd y wlad i aelodau o gorau hanesyddol.
Er bod y gwaith yn ddogfennol ei natur mae’n cyfleu’r teimlad o fod mewn breuddwyd, gyda delweddau o nosweithiau hirddydd haf a nosweithiau tywyll y gaeaf, ynghyd â chyfeiriadau at hanes a llên gwerin Cymru.
Ganed Mohamed ym 1984 yn Alexandria, yr Aifft, a symudodd i Gymru yn 2007. Astudiodd ffotograffiaeth yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, cyn cwblhau gradd meistr mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol De Cymru.
Mohamed Hassan
Wedi’i guradu gan Bob Gelsthorpe
Noddir gan Paul Davies AS