Beth wyt ti'n edrych am?
Urge to Murder | LoUis CYfer & Victoria Scone
Dyddiad(au)
07 Chwe 2025
Amseroedd
19:00 - 21:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Paratowch ar gyfer noson o ddirgelwch, anhrefn a llofruddiaeth gyda’r Ditectifs Denim Dwbl – LoUis Cyfer a Victoria Scone!
Ymunwch â nhw ym Mhencadlys Goruchwylio Ymchwilwyr Fforensig ar gyfer eu sioe newydd ‘Urge to Murder’.
Yn galw ditectifs cadair freichiau amatur a phobl sy’n dwli ar drosedd go iawn – dyma eich cyfle i ddatrys yr achos mewn noson yn llawn cabaret troseddol, canu byw a digonedd o syrpreisys. Gwisgwch eich côt gabardîn a’ch het drilbi, dewch â’ch ffrindiau angladdol a pharatowch ar gyfer noson gyffrous o chwerthin a gwewyr.
Archebwch eich tocynnau nawr a pharatowch i ddatgelu cliwiau, torri codau a dod o hyd i’r un euog (tybed?)!