Beth wyt ti'n edrych am?
Vaguely Artistic: Back To School!
Dyddiad(au)
23 Med 2023
Amseroedd
20:30 - 22:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Bydd Vaguely Artistic yn mynd â chi ’nôl, ’nôl, ’NÔL I’R YSGOL!
Ymunwch â’r parti am noson o gerddoriaeth wrthryfelgar a phob math o gamgymeriadau wrth gydnabod enwau awduron caneuon (ydyn, rydyn ni’n methu’r prawf hanes bob tro).
Gwisgwch eich gwisg ysgol, achos bydd gwobr i’r disgybl sydd wedi gwisgo orau yn y parti!
Bydd hwn yn Barti a Hanner! Felly os ydych chi eisiau bod yn un o’r Kids Cŵl, byddwch yn barod i Padam, Padam!
Band cynhwysol mewnol Hijinx yw Vaguely Artistic sy’n creu cerddoriaeth pync, roc, pop, enaid, blŵs a ffync – yn y bôn, rydyn ni’n gwneud y cwbwl lot! Bydd llwyth o ganeuon adnabyddus, ac fe fyddwn ni’n siŵr o daflu ambell gân wreiddiol o’n halbwm i mewn hefyd. Mae’r albwm ar gael ar Bandcamp ac ar y prif wasanaethau ffrydio.
Dydych chi erioed wedi clywed dim byd tebyg i ni!