Beth wyt ti'n edrych am?
Vaguely Deviant: The Office Christmas Party
Dyddiad(au)
16 Rhag 2023
Amseroedd
20:30 - 22:30
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Daeth gŵyl y baban â gwên nôl i’r byd, ac mae doli fach yn eistedd mor ddel ar frig y pren!
Felly dewch i mewn i’n tŷ a rhoi tinsel ar y goeden. Nid tawel nos fydd hi ‘leni. Dewch at eich gilydd a bloeddiwch ynghyd a mwynhau Nadolig Vaguely Deviant!
Ymunwch â ni am drydydd rhifyn strafagansa arddangos House of Deviant (Fflamingo) a Vaguely Artistic (Hijinx), lle mae anhrefn a gliter yn teyrnasu! Gwisgwch eich dillad parti gorau a’ch ‘sgidiau dawnsio, achos, yn ôl pob sôn, mae gan ellyll Sion Corn wobrau i bawb sydd ar y rhestr ddymunol a drwg…
Gwyddom mai’r cyfan sydd ei angen arnoch y Nadolig yma yw… Vaguely Deviant: The Office Christmas Party!
Band ffync, blues, soul, pop, roc a phync mewnol Hijinx yw Vaguely Artistic. Gan ysgrifennu eu traciau gwreiddiol eu hunain a’u rhannu yn uchel ac yn falch, maen nhw’n chwarae popeth o The Beatles i Iggy Pop a Reef. Maen nhw wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf, sydd ar gael ar Bandcamp a phob gwasanaeth ffrydio mawr. Dydych chi erioed wedi clywed dim byd tebyg!
House of Deviant yw’r unig gwmni drag anableddau dysgu yng Nghymru. Mae eu poblogrwydd wedi tyfu ers i’r prosiect ddechrau yn 2020 ac maen nhw’n brosiect a gyd-gynhyrchir yn Ne Cymru sy’n defnyddio perfformiadau drag fel ffordd o archwilio hunan-barch, hyder ac annibyniaeth i oedolion ag anableddau dysgu. Maen nhw’n ffyrnig, yn anhygoel ac yn wahanol i unrhyw beth rydych chi wedi’i weld o’r blaen!