Neidio i'r prif gynnwys

Wasteland of my Fathers

Dyddiad(au)

25 Med 2023 - 05 Tach 2023

Lleoliad

Canolfan Mileniwm Cymru, Bute Place, Bae Caerdydd, CF10 5AL

Map Google

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Archwiliwch fyd pync gyda Wasteland of my Fathers, arddangosfa o ddiwylliant pync ledled Cymru. Ymdrochwch eich hun yn y gerddoriaeth, gwaith celf DIY a geiriau sy’n procio’r meddwl sy’n diffinio’r is-ddiwylliant dylanwadol yma.

Gan ymgorffori’r ethos DIY a’r gweithredu sydd wedi llunio pync ers y Saithdegau, mae’r arddangosfa yma yn rhoi cipolwg ar y symudiad. Mae’n rhannu sut wnaeth pync ddod o hyd i’w le mewn ystadau cyngor, dociau a phentrefi cloddio a llechi, gan adael marc parhaol o’r gogledd i’r de.

Yng Nghymru, gwnaeth bandiau fabwysiadu pync a’i ethos, gan wneud eu datganiadau gwleidyddol eu hunain. Gwnaeth rhai ddechrau dadlau dros anarchiaeth, hawliau anifeiliaid, diarfogi niwclear a gwrth-hiliaeth. Roedd gan y byd pync yng Nghymru gefndir unigryw, yn wahanol i Efrog Newydd neu Lundain, a daeth yr angen i ddefnyddio dull DIY yn elfen bwysig ohono.

Er nad yw’r symudiad pync yng Nghymru yn cael llawer o sylw, mae’r arddangosfa yma yn rhoi cipolwg gwerthfawr o bync o ‘wlad y gân’. Peidiwch â cholli’r cyfle prin yma i gloddio i arwyddocâd diwylliannol pync yng Nghymru.

Arddangosfa rad ac am ddim wedi’i churadu gan Hanes Miwsig Caerdydd yw Wasteland of my Fathers.