Beth wyt ti'n edrych am?
Opera | Ainadamar
Dyddiad(au)
09 Med 2023 - 26 Med 2023
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Beth fyddech chi’n ei aberthu er mwyn rhyddid?
Ffynnon hynafol ger Granada yw Ainadamar, gair Arabeg sy’n golygu ‘Ffynnon o Ddagrau’, lle yn 1936, cafodd y bardd a’r dramodydd o Sbaen, Federico García Lorca, oedd wedi’i alw’n ‘sosialydd hoyw’ gan y milisia Ffalanchaidd, ei ddienyddio’n greulon yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen.
Mae opera Golijov sydd wedi ennill dwy wobr Grammy yn ail-ddychmygu bywyd Lorca trwy ôl-fflachiau o atgofion gan ei awen a’i gydweithiwr, yr actores Margarita Xirgu, sydd erbyn hyn yn ei munudau olaf yn Wrwgwái yn 1969, wrth iddi geisio pasio gobeithion ac angerdd ei chenhedlaeth ymlaen i’w myfyriwr, Nuria.
Mae Ainadamar yn addo sioe wefreiddiol gan y coreograffydd clodwiw sydd wedi ennill gwobr Olivier, Deborah Colker (Seremoni Gemau Olympaidd Rio 2016; Cirque du Soleil). Dyma fydd ei ymddangosiad cyntaf yn y byd operatig, yn sedd y cyfarwyddwr.
Mae’r canlyniad yn galeidosgop trawiadol o gerddoriaeth, dawns a theatr lle mae fflamenco yn cwrdd ag opera trwy ganu Sbaenaidd traddodiadol a chaneuon operatig godidog, i gyd wedi’u britho â ffrwydradau rhythmig, sonig a barddol. Mae Ainadamar yn eich gwahodd i brofi opera fel nad ydych erioed wedi’i weld o’r blaen.