Beth wyt ti'n edrych am?
Opera | La Traviata
Dyddiad(au)
21 Med 2023 - 30 Med 2023
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Beth fyddech chi’n ei aberthu yn enw cariad?
Violetta yw putain llys mwyaf gosgeiddig Paris, y ddelaf ym mhob dawns, gyda dewis o edmygwyr cyfoethog yn disgyn wrth ei thraed. Mae hi wrth ei bodd â chrandrwydd ffordd o fyw y boneddigion, ond pan mae’n disgyn dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad â’r bardd aristocrataidd Alfredo, sydd heb ddimai goch i’w enw, mae’n fodlon aberthu popeth er ei fwyn. A fydd hi’n cael ei derbyn fel merch sydd wedi disgyn mewn cariad, neu a fydd hi’n parhau i gael ei hystyried yn ferch bechadurus nad oes dyfodol i’w chariad?
Mae opera fythol Verdi yn seiliedig ar nofel Alexandre Dumas fils, La Dame aux Camélias, ac mae’n cynnwys rhai o’r ariâu a melodïau mwyaf atgofus, gan gynnwys yr hynod adnabyddus Brindisi (y gân yfed), a’r diweddglo hyfryd o ingol, Addio del passato. Bydd yn amlwg o gynhyrchiad gosgeiddig ac egniol pum-seren WNO pam mae’r stori dorcalonnus hon am gariad wedi’i rwystro, sgandal a hunan-aberth yn gwneud La traviata yn ffefryn gyda chynulleidfaoedd ar draws y byd.