Beth wyt ti'n edrych am?
We’re Going on a Bear Hunt
Dyddiad(au)
18 Ion 2024 - 21 Ion 2024
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Rydyn ni’n mynd i Ganolfan Mileniwm Cymru
Rydyn ni’n mynd i weld Bear Hunt
Am ddrama brydferth!
Does dim ofn arnon ni…
Mae cerddoriaeth, chwerthin, odlau, rhythmau ac ailadrodd ynghyd â phypedwaith, paent, dŵr a mwd… heb sôn am arth – does dim ofn arnon ni! – yn gwneud yr antur llawn hwyl yma yn brofiad theatraidd perffaith i deuluoedd ifanc.
Ymunwch â’n teulu dewr o anturwyr a’u ci cerddorol wrth iddyn nhw gerdded drwy’r gwair sïol, yr afon sblasiog a’r mwd slwtshlyd, i chwilio am arth. Gallwch chi ddisgwyl llwyth o ryngweithio a rhai syrpreisys ar hyd y ffordd.
Wedi’i addasu i’r llwyfan o’r clasur modern a ysgrifennwyd gan Michael Rosen ac a ddarluniwyd gan Helen Oxenbury.