Beth wyt ti'n edrych am?
Whitney – Queen of the Night
Dyddiad(au)
19 Tach 2023
Amseroedd
19:30 - 21:45
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Mae Whitney – Queen of the Night yn ddathliad syfrdanol o gerddoriaeth a bywyd un o’r cantorion mwyaf enwog, anhygoel a fu erioed.
Yn syth o’r West End, profwch y sioe deyrnged i Whitney Houston wrth iddi deithio ar draws y DU, gan berfformio dros 100 o gyngherddau bob blwyddyn.
Mae’r ffenomen o gynhyrchiad yma’n cyflwyno cyngerdd gwefreiddiol yn gyson ac wedi cael ei ddisgrifio fel “a powerhouse performance that delivers on every level…”
Bydd y sioe wych yma’n mynd â’r gynulleidfa ar daith hudolus trwy dri degawd o ganeuon enwog, hiraethus, yn cynnwys: I Wanna Dance With Somebody, One Moment In Time, I’m Every Woman, I Will Always Love You, My Love Is Your Love, So Emotional Baby, Run to You, Saving All My Love, How Will I Know, Million Dollar Bill, The Greatest Love Of All, a llawer mwy…
Ymunwch a ni am noson fythgofiadwy wrth i ni dalu teyrnged i’r Frenhines Pop gyda chast anhygoel a band byw arbennig.