Beth wyt ti'n edrych am?
Zoetrope
Dyddiad(au)
13 Rhag 2023 - 16 Rhag 2023
Gwybodaeth am y Digwyddiad
Dewch yn llu i gael eich diddanu a’ch syfrdanu ym myd rhyfeddol Zoetrope!
A yw awr yn ddigon o amser i ddysgu am holl hanes dyn? Mae’n annhebygol. A yw’n ddigon o amser i gael eich syfrdanu, eich diddori a’ch diddanu? Yn bendant. Bydd eich dychymyg yn rhedeg yn wyllt wrth i fadfallod, tsimpansïaid a sgerbydau neidio a llamu ar draws llwyfan, yn archwilio cerddoriaeth ac effeithiau clyfar.
Mae’r profiad swynol hwn i’r teulu cyfan yn cyfuno holl hwyl y ffair gyda champau acrobatig a dawns er mwyn archwilio ystyr bywyd, tarddiad ffilm a’n hatyniad at hud a lledrith.
Coreograffi gan yr enwog Lea Anderson MBE.