Neidio i'r prif gynnwys

Mae Caerdydd yn brifddinas greadigol ddeinamig sy’n ffynnu gyda threftadaeth ddiwylliannol gyfoethog.

Os ydych chi'n chwilio am eich gwyliau nesaf mewn dinas ddiwylliannol, dewch i Gaerdydd ac fe gewch eich swyno gan ddigonedd o atyniadau diwylliannol arobryn, sefydliadau celfyddydol gwych a'u rhaglenni trawiadol wedi'u curadu. O ran diwylliant mae rhywbeth i bawb yng Nghaerdydd; sin gerddorol sy’n tyfu; un o'r casgliadau mwyaf o gelf argraffiadol yn y byd; Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019, a lleoliad “celfyddydau ymgolli” cyntaf Ewrop.

CERDDORIAETH

Mae Cymru’n adnabyddus ledled y byd fel Gwlad y Gân, ond a wyddech chi fod Caerdydd wedi cael ei datgan yn ddinas gerddorol gyntaf y DU yn ddiweddar? Drwy gynnal digwyddiadau fel ‘BBC Canwr y Byd Caerdydd’ a gwyliau aml-leoliad yn dathlu artistiaid amrywiol a blaengar fel ‘Sŵn’ a ‘Gŵyl y Llais’ mae’n hawdd gweld pam. Mae’r ddinas hefyd yn gartref i Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, y mae’r ddau ohonynt â’u pencadlys yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd.

Mae Caerdydd yn gartref i leoliadau cerddoriaeth fyw gwych; o un o stadia mwyaf blaenllaw’r byd i dafarndai’n cynnal gigiau bychain, sy’n anadl einioes i’r byd cerdd sy’n blodeuo yn y ddinas, gan gynnwys artistiaid pop Cymraeg a bandiau ‘grime’ go iawn.   Ewch lawr i Stryd Womanby, canolbwynt y sîn gerdd leol ar unrhyw noson o’r wythnos, lle cewch hyd i fywyd nos cyffrous a cherddoriaeth fyw yn seinio allan i’r stryd.

CELF GYFOES A CHAIN

Mae Caerdydd yn gartref i ddigwyddiadau celf gyfoes diddorol; yn amrywio o wobr celfyddyd gyfoes fwyaf y DU ‘Artes Mundi’ i osodiadau cyffrous dros dro ac arddangosfeydd celf byrhoedlog gan gwmnïau celf cydweithredol fel TactileBOSCH. Mae gan Gaerdydd hefyd amrywiaeth o orielau, o’r bach i’r mawr y gallwch ymweld â hwy drwy gydol y flwyddyn sy’n arddangosfa gweithiau gan rai o artistiaid mwya’r byd ac ymarferwyr lleol. 

Ers dros 40 mlynedd mae’r Chapter wedi bod yn lleoliad aml-blatfform uchelgeisiol sy’n cyflwyno, yn cynhyrchu ac yn hyrwyddo celf ryngwladol, perfformiadau byw a ffilmiau ochr yn ochr â bar ac ardal gaffi ddeinamig sy’n boblogaidd gyda phobl leol.

FFILMIO A FFOTOGRAFFIAETH

Mae Caerdydd yn ddinas wych i bobl sy’n hoff o ffilmiau a’r sgrin! Bob blwyddyn mae’r ddinas yn cynnal nifer o wyliau ffilm a ffotograffiaeth.  Yn y gwanwyn, mae Caerdydd yn dod yn oriel ar gyfer ‘Diffusion’, Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol, a phob hydref mae’r ddinas yn cynnal yr ŵyl ffilm LHDT+ ‘Gwobr Iris’. I ddarganfod rhywbeth gwirioneddol ryfeddol ewch i ‘CULTVR’, lleoliad cyntaf Ewrop ar gyfer y celfyddydau ymgolli gyda’i sinema 360º.

Ar gyfer ‘cinephiles’, ewch i sinema ‘arthouse’ y Chapter lle cewch hyd i amrywiaeth eang o ffilmiau tramor, annibynnol a chelf. Yng Nghaerdydd cewch hefyd hyd i IMAX a 4DX. O ie, a wnaethon ni grybwyll mai ni yw’r ddinas rataf yn y DU i weld ffilm?

Darganfyddwch Ffilm a Ffotograffiaeth Caerdydd

THEATR A CHELFYDDYDAU PERFFORMIO 

Mae Caerdydd yn gartref i rai o’r sefydliadau celfyddydau perfformio mwyaf arloesol yn y DU gan gynnwys cwmni syrcas cyfoes mawr mwyaf blaenllaw’r DU, ‘NoFit State’ a chwmnïau cenedlaethol sydd â statws rhyngwladol fel Opera Cenedlaethol Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru.

Mae Caerdydd hefyd yn gartref i leoliadau o’r radd flaenaf, yn amrywio o un o’r llwyfannau mwyaf yn Ewrop yng Nghanolfan Mileniwm Cymru sy’n arbennig yn bensaernïol, i’r diddos a’r rhyfedd, fel ‘The Other Room’, theatr dafarn gyntaf Caerdydd.

TREFTADAETH

Mae gan Gaerdydd gyfoeth o atyniadau treftadaeth i roi boddhad i bawb, gan gynnwys y rhai sy’n dwlu ar hanes a phensaernïaeth. Yng nghalon y ddinas, mae muriau a thyrau tylwyth teg Castell Caerdydd yn celu dros 2,000 mlynedd o hanes. 

Ychydig y tu allan i ganol y ddinas fe welwch Eglwys Gadeiriol Llandaf sy’n sefyll ar un o’r safleoedd Cristnogol hynaf yn Ynysoedd Prydain, lle mae pobl wedi addoli ers canol y chweched ganrif. Byddwch hefyd yn darganfod Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, sy’n un o amgueddfeydd awyr agored mwyaf blaenllaw Ewrop. Mae Caerdydd wir yn drysorfa o safleoedd hanesyddol a threftadaeth sydd ond yn aros i gael eu darganfod.