Diwrnod chwaraeon campus allan i’r rhai hynny sy’n awyddus i brofi awyrgylch rygbi Cymreig go iawn.

Dilynwch:

Mae Gleision Caerdydd yn un o bedwar tîm rygbi rhanbarthol proffesiynol Cymru.

Wedi eu lleoli ym Mharc yr Arfau BT Sport, mae’r rhanbarth yng nghanol y brifddinas ac yn cystadlu yn y Guinness PRO14.

Mae Rhanbarth y Brifddinas yn gallu brolio rhai o enwau mwyaf y byd rygbi proffesiynol gyda Gethin Jenkins, Sam Warburton ac Alex Cuthbert oll yn rhan o garfan 2017-18.

Mae dros 70 o glybiau yn gysylltiedig â’r rhanbarth o fewn ei ddalgylch, y mwyaf amlwg yw Clwb Rygbi Caerdydd a Chlwb Rygbi Pontypridd.

Ers dyfod i fod fel rhanbarth, mae Gleision Caerdydd wedi cipio’r Cwpan Eingl-Gymreig a Chwpan Her Ewrop – yr unig dîm o Gymru i ennill tlws Ewropeaidd.

Gwefan

http://www.cardiffblues.com/home.php

Ffôn

+44(0)8453 451400

02920 3020 30

E-bost

enquires@cardiffblues.com

Cyfeiriad

Cardiff Arms Park
Westgate Street
Cardiff
S Glam
CF10 1JA
United Kingdom