Neidio i'r prif gynnwys

Popeth sydd angen i chi ei wybod am feysydd parcio yng Nghaerdydd.  Mae’r wybodaeth yn cynnwys lleoliadau a phrisiau parcio yng nghanol y ddinas a Bae Caerdydd, yn ogystal â gwasanaethau parcio a theithio.

Os ydych chi’n teithio i Gaerdydd, fe welwch fwy o gyngor ar dwristiaeth a theithio yn ein hardal gwybodaeth i ymwelwyr, gan gynnwys sut i deithio o amgylch Caerdydd, mapiau ymwelwyr a mwy.

 

MEYSYDD PARCIO CYNGOR CAERDYDD AC AP PARK CARDIFF

Os ydych chi’n gyrru o amgylch y ddinas, yn chwilio am y lle gorau i barcio – yna gallwch ddefnyddio’r ap Park Cardiff ar gyfer meysydd parcio Cyngor Caerdydd, sydd ar gael ar gyfer Android ac iPhone, neu drwy ei wefan ar-lein.

Gallwch ddod o hyd i ddiweddariadau byw o lefydd parcio ar y stryd a llefydd parcio sydd ar gael.  Yna parciwch eich cerbyd a phrynwch eich tocyn – naill ai trwy beiriant tocynnau, neu drwy’r ap MiPermit.

Gallwch hefyd dalu ymlaen llaw am eich tocyn hyd at 7 diwrnod ymlaen llaw.

 

MEYSYDD PARCIO NCP AC AP PARKPASS NCP

Mae Caerdydd yn gartref i 8 maes parcio canolog sy’n cael eu gweithredu gan NCP a gallwch gael lle parcio NCP rhatach yn y ddinas gyda Croeso Caerdydd! Cadwch le trwy Ap ParkPass NCP a rhowch rif adnabod Saver, CROESOCAERDYDD am ostyngiad gwych (nid yw ar gael yn ystod digwyddiadau mawr).

Gallwch hefyd ddefnyddio ap ParkPass NCP i archebu’r rhan fwyaf o feysydd parcio NCP y ddinas ymlaen llaw.

 

TEITHIO AR GYFER DIGWYDDIADAU MAWR

Fel arfer, mae Cyngor Caerdydd yn gweithredu gwasanaeth parcio a theithio ar ddiwrnodau digwyddiadau mawr. Mae Principality Parking a NCP yn cynnig mannau y gellir eu harchebu ymlaen llaw ar gyfer digwyddiadau stadiwm mawr penodol yn y ddinas. Fel arfer mae yna hefyd ffyrdd ar gau a mesurau mewn lle er mwyn sicrhau diogelwch y rheiny sy’n defnyddio gwasanaethau trên.

Am ragor o wybodaeth ar gyfer diwrnodau digwyddiadau mawr penodol, edrychwch ar ein datganiadau i’r wasg Cyngor Teithio ar gyfer Digwyddiadau Mawr.

 

PARCIO I BOBL ANABL

Ar gyfer llefydd parcio i bobl anabl, gallwch hefyd ddefnyddio ap Park Cardiff i ddod o hyd i leoedd parcio sydd ar gael, yna dewch â’ch Bathodyn Glas i barcio yn y rhain am ddim.  Tra bod meysydd parcio Cyngor Caerdydd yn cynnig llefydd parcio am ddim i ddeiliaid bathodynnau, gallai meysydd parcio eraill gynnig llefydd parcio i bobl anabl ond bydd angen talu.

 

AROS YN Y DDINAS?

Os ydych yn aros yn un o’n gwestai niferus sydd wedi’u lleoli’n ganolog, efallai y gallant gynnig lle parcio ar y safle, neu le parcio am bris gostyngol gerllaw.

 

GWEFRU

Os ydych chi’n dod â char trydan, mae gan Greyfrairs, Pellet Street a Plas Dumfries yr NCP gyfleusterau gwefru hefyd. Os ydych chi’n aros yng Ngwesty’r Marriott, mae ganddyn nhw bwyntiau gwefru ar gyfer gwesteion. Gellir codi costau ychwanegol am hyn.

 

PARCIO BEICIAU

Dysgwch ble gallwch chi barcio eich beic yn ddiogel yn ein dinas a’n cymdogaethau ar fapiau canol y ddinas, Bae Caerdydd, Parc y Rhath a Phontcanna.

 

YN PARCIO CERBYD MWY O FAINT NEU O LED?

Mae Gerddi Sophia (pellter cerdded o 9 munud o Stadiwm Principality) yn ddelfrydol ar gyfer parcio ceir, cartrefi modur, coetsis a faniau.

 

PARCIO I FYSUS

Mae gennym wybodaeth bellach am barcio i fysus a gweithredwyr bysus.

Edrychwch ar ein rhestrau Meysydd Parcio i ddod o hyd i'r lle perffaith i barcio.