Neidio i'r prif gynnwys

Bydd Gŵyl y Gaeaf poblogaidd Caerdydd yn dychwelyd yn 2023 gyda’i llawr sglefrio dan do enwog a’i Thaith Iâ, yr Olwyn Fawr a ffair i’r teulu, ynghyd â llu o atyniadau eraill.

Ochr yn ochr â’r bar porthdy sgïo alpaidd, Sur la Piste, stondinau bwyd a diod Nadoligaidd, heb sôn am y Bar Iâ hynod o cŵl, mae Gŵyl y Gaeaf wir wrth galon dathliadau tymhorol Caerdydd.

Mae Gŵyl y Gaeaf wedi’i rhannu ar draws dau leoliad eiconig yng nghanol y ddinas, sef tir Castell Caerdydd a Lawnt Neuadd y Ddinas. Mae mynediad am ddim i’r ddau safle, dim ond am yr atyniadau yr hoffech eu profi y mae angen i chi dalu.

Bydd dyddiadau Gŵyl y Gaeaf eleni yng Nghaerdydd yn dechrau o ddydd Iau, 16 Tachwedd 2023 ac yn cau ar ddydd Mawrth, 02 Ionawr 2024. Bydd yr amseroedd agor yn cael eu cadarnhau’n fuan.

Mae tocynnau ar gael i’w harchebu ymlaen llaw ar gyfer sesiynau sglefrio iâ, y Bar Iâ, a nawr hefyd ar gyfer yr Olwyn Fawr. Gellir prynu tocynnau reid ffair ar y safle a gellir prynu’r holl fwyd a diod o’r ciosgau unigol.

Sylwer: Na fydd arddangosfa tân gwyllt Nos Galan yng nghanol dinas Caerdydd y flwyddyn yma.

Pethau i wneud

YNG NGHASTELL CAERDYDD

SGLEFRIO AR Y LLAWR IÂ A’R THAITH IÂ

Mae Llawr Sglefrio a Thaith Iâ hudol Gŵyl y Gaeaf wedi’u gosod o fewn tiroedd hardd Castell Caerdydd, yn erbyn cefndir syfrdanol y Gorthwr Normanaidd. Mae’r llawr sglefrio iâ 40m x 15m dan do, gyda’r Rhodfa Iâ 150m, yn addas ar gyfer pob oed a gallu.

Pethau i wneud

AR LAWNT NEUADD Y DDINAS

Y BAR BARRUG

Ymlaciwch gyda’ch ffrindiau a mwynhewch ddiod yng nghanolfan fwyaf cŵl y ddinas, y profiad Bar Iâ cyffrous yng Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd! Mae hon yn nefoedd i Instagrammers gyda thymheredd is-sero ac ydy, mae popeth wedi’i wneud allan o rew. I ymweld â’r Bar Iâ, gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu slot wedi’i amseru ymlaen llaw.

YR OLWYN FAWR A’R FFAIR I’R TEULU

Nid yw Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn gyflawn heb ei ffair enwog i’r teulu. Yn ôl yr arfer, gallwch fwynhau’r olygfa orau o’r ddinas o’r Olwyn Fawr a mwy, bydd amrywiaeth wych o atyniadau eraill sy’n addas ar gyfer pob oed ac adloniant nos.

SUR LA PISTE – Y BAR PORTHDY SGIO ALPAIDD

Bydd y porthdy sgïo dwy stori boblogaidd, Sur la Piste, yn dychwelyd ac eleni mae’n dod â theras to awyr agored newydd sbon.

DEWCH I GAERDYDD DROS Y 'DOLIG

Does byth amser drwg i Ymweld â Chaerdydd, gyda chymaint o ddigwyddiadau, atyniadau a phethau i’w gweld ym mhrifddinas ffyniannus Cymru, ond mae ‘na wastad rhywbeth hudolus am y ddinas adeg y Nadolig. Felly, teimlwch fod ysbryd y tymor yn dod yn fyw, beth bynnag sy'n ei wneud yn arbennig i chi, mae gan y Nadolig yng Nghaerdydd rywbeth i bawb.

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.