Yn Bella Italia, rydym yn trysori traddodiad. Rydym yn frwd dros ddod â blas o’r Eidal i chi, fel y gallwch brofi cariad, bwyd a hyd y wlad ryfeddol hon drosoch chi’ch hun yn ein bwytai.
Defnyddiwn gynhwysion o gynhyrchwyr Eidalaidd fel teulu Gaetarelli yn Llyn Garda sy’n gwneud pasta ffres i ni. Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda busnesau teuluol i ddod â chynhwysion atoch o haul yr Eidal, tra bod ein Cogydd Gweithredol Vittorio Lettieri yn dod â’i dreftadaeth Eidalaidd i bob saig flasus ar ein bwydlen.
Magwyd Vittorio ar Arfordir yr Amalfi yn Ne’r Eidal, yn nhref brydferth a hanesyddol Avellino. Yma, trigodd â’i rieni a’i chwe brawd a chwaer hŷn. Fel yr ieuengaf o blith saith, treuliai’n aml amser yn y gegin â ‘Mamma’ yn helpu baratoi bwyd i’r teulu cyfan. O’r adeg hon y deilla cariad Vittorio at goginio.
P’un ai’n wledd ramantus i ddau, digwyddiad teuluol neu sgwrs â ffrindiau – Bella yw’r lle i fod, gyda bwyd gwych, gwasanaeth cyfeillgar a chroeso mawr Eidalaidd!
CAERDYDD - ARDAL YR HEN FRAGDY
Mae ein hen fwyty Bella Italia yn Ardal yr Hen Fragdy yng nghanol y ddinas, nid nepell o Stadiwm Principality.
Rydym ar agor ar y penwythnos am frecwast o 9am, a chinio a swper bob dydd, gan gynnig ein bwydlen A La Cartref o 1130am a bwydlen ginio bob dydd tan 5pm. Mae gennym hefyd fwydlen wych i blant 2-11 oed mewn dau faint, un llai ac un mwy.
Gallwn gynnig ein hystafell i fyny’r grisiau am gyfarfodydd, partïon a digwyddiadau – galwch heibio neu ffoniwch ni i gael manylion; does dim tâl i logi’r ystafell, ac mae croeso i grwpiau unrhyw adeg o’r dydd, boed am goffi neu bryd tri chwrs. Mae hefyd offer clyweledol i’ch cyfarfod os oes ei angen arnoch.
Ffon: 029 2023 0087
Ebost: cardiffoldbrewery@bellaitalia.co.uk
Cyfeiriad: Unit 6, The Old Brewery Quarter, Cardiff, Wales, CF10 1FG
BAE CAERDYDD - GLANFA'R IWERYDD
Rydyn ni wedi ailwampio! Mae’r bwyty’n edrych yn wych ac allwn ni ddim disgwyl i’ch croesawu i Bella newydd Bae Caerdydd!
Peidiwch â thorri’ch dydd yng Nghanolfan Red Dragon yn fyr am fod angen bwyd arnoch! Dewch draw cyn i chi fynd i fowlio neu ar ôl gwylio ffilm! Bydd ein staff croesawgar a chynnes wrth law i weini pizzas clasurol, powlenni poeth o basta bendigedig a griliau ddaw â dŵr i’r dannedd. Bellissimo! Rydyn ni agor bob dydd am ginio a swper, ac am frecwast ar y penwythnos gyda bwydlen yn llawn prydau Eidalaidd blasus gyda chynhwysion sydd wedi’u creu’n ôl traddodiadau teuluol yr Eidal.
Ffon: 029 2047 2009
Ebost: CardiffBay@BellaItalia.co.uk
Cyfeiriad: Red Dragon Centre, Atlantic Wharf Leisure Centre, Cardiff, CF10 5JY