Mae modd cael profiad unigryw a dethol o brofi bwyd a diod o’r radd flaenaf ym Mwyty a Bar Gwin y Park House. Gall cwsmeriaid fwynhau bwyd o ansawdd Seren Michelin, gwasanaeth anhygoel a chael dewis o dros 100 o winoedd yn yr adeilad rhestredig Gradd 1. Rydym yn cynnig profiad ciniawa o’r radd flaenaf bob wythnos.
Yn y Park House, rydym yn frwd dros ddefnyddio cynhwysion o ansawdd da ac yn ceisio pwysleisio agweddau gwych ein cynnyrch Cymreig lleol gyda’r gorau y gall Ffrainc ei gynnig. Ein cenhadaeth yw creu seigiau sy’n llawn gwead, blas a chyffro, tra’n asio’n berffaith gyda’n hangerdd arall ni – ein gwin.
Arddull Ffrengig fodern sydd i’n bwyd, tra’n defnyddio technegau clasurol. Rydym yn defnyddio’r cynnyrch Cymreig gorau ochr yn ochr â’r cynnyrch Ffrengig gorau o farchnad Rungis.
Rydym nid yn unig yn angerddol dros y bwyd rydym yn ei gynnig, ond hefyd y diodydd rydym yn eu gweini. Credwn yn gryf bod asio’r bwyd gyda’r gwin perffaith nid yn unig yn codi safon y pryd bwyd ond hefyd y gwin. Mae paru’r gwin a’r bwyd wrth wraidd yr hyn ‘yn ni’n gwneud, a thros y deng mlynedd diwethaf rydym wedi adeiladu un o’r selerau gorau yn y DU. Mae hyn yn ein galluogi ni i gynnig mwy nag un gwin i baru gyda phob saig yr ydym yn ei weini.
Ffôn
029 2022 4343
E-bost
enquiries@parkhouserestuarant.co.uk
Cyfeiriad
Park House Restaurant, 20 Park Place, Cardiff, CF10 3DQ