Bydd ein tîm cyfeillgar, amlieithog a gwybodus yng Nghastell Caerdydd yn rhoi gwybodaeth dwristaidd hanfodol i chi yn ogystal ag awgrymiadau defnyddiol er mwyn eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich amser yng Nghaerdydd.
Mae’r Pwynt Gwybodaeth i Ymwelwyr wedi’i leoli yng Nghanolfan Ymwelwyr Castell Caerdydd, ychydig y tu mewn i’r brif giât ar yr ochr dde. Does dim angen i chi dalu am fynediad i Sgwâr Cyhoeddus y Castell a thra’ch bod chi yno, gallwch hefyd fynd i Siop Roddion y Castell neu gael tamaid i’w fwyta ym Mistro Teras y Gorthwr.
Cyfeiriad
Castell Caerdydd, Stryd y Castell, Caerdydd CF10 3RB