Mae llyfrgell penigamp Caerdydd yn lle cyffrous i ddarllen, dysgu, ymlacio a mwynhau’r atmosffer yng nghanol un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf yn Ewrop. Mae’n un o adeiladau mwyaf cynaliadwy ac eiconig y ddinas, yn cyflawni’r sgoriau uchaf ar gyfer datblygu cynaliadwy, a gwasanaethau ynni a dŵr effeithlon.
Mae Hyb y Llyfrgell Ganolog wedi’i leoli ar ben isaf yr Aes yng nghanol y ddinas, ger Gwesty’r Marriott a thafliad carreg o nifer o gaffis a bwytai.
Mae Wi-fi am ddim gydol adeilad Hyb y Llyfrgell Ganolog, yn ogystal â mannau astudio ar bob llawr a Llawr Digidol cyffrous. Mae 75 o gyfrifiaduron am ddim i’w defnyddio ar y Llawr Digidol gyda phecynnau meddalwedd cyfredol, bar llechi’n cynnig 10 o lechi am ddim i’w defnyddio, wal blasma gyda newyddion, diweddariadau a chynnwys llyfrgell ac argraffwr 3D.
PARCIO
Y lle agosaf i barcio yw maes parcio John Lewis, sydd wedi’i leoli ar draws y stryd y tu ôl i’r llyfrgell.
AR Y BWS
Gallwch gyrraedd y llyfrgell yn defnyddio’r rhan fwyaf o fysus gan ei fod yng nghanol y ddinas. Rydym yn argymell y dylai twristiaid ddefnyddio bws rhif 6.
AR Y TRÊN
Gallwch gerdded o Orsaf Caerdydd Canolog i’r Llyfrgell o fewn 5 munud.
Ffôn
+44(0)29 2038 2116
E-bost
centrallibrary@cardiff.gov.uk
Cyfeiriad
Yr Aes, Caerdydd CF10 1FL