Neidio i'r prif gynnwys

HOCI CYMRU

Hoci Cymru yw’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer hoci yng Nghymru. Wedi'i leoli yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru, cynhelir gemau cartref a thwrnameintiau ar gyfer y timau cenedlaethol yng Ngerddi Sophia yng nghanol dinas Caerdydd.

Fel y Corff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer hoci yng Nghymru, mae Hoci Cymru yn gweithio’n galed i gefnogi’r gamp ledled y wlad, yr holl ffordd o lawr gwlad i lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Mae ganddynt ddau dîm cenedlaethol i oedolion sy’n cynrychioli Cymru ar lwyfan y byd. Ar gyfer y tymor 21/22, mae dynion Cymru yn 17eg yn y byd ac yn 8fed yn Ewrop. Ar gyfer y tymor 21/22, mae Menywod Cymru yn 25ain yn y byd ac yn 13eg yn Ewrop.

Mae Hoci Cymru yn aelod o Hoci Prydain Fawr, ac mae eu chwaraewyr yn helpu i ffurfio tîm hynod lwyddiannus Prydain Fawr. Roedd pedwar chwaraewr o Gymru yn rhan o dimau Prydain Fawr yn Tokyo 2020: Jacob Draper, Rupert Shipperley, Sarah Jones, a Leah Wilkinson (sef yr athletwr â’r nifer fwyaf o gapiau yng Nghymru)!

Mae 67 o glybiau hoci ledled Cymru, ac mae rhai o’r clybiau hyn yn chwarae yn y gynghrair hoci uchaf yn y DU. Mae Merched Abertawe yn chwarae yn Uwch Adran Cynghrair Hoci Menywod Vitality, gyda gemau cartref yn cael eu chwarae ym Mhrifysgol Abertawe. Mae tîm Dynion Met Caerdydd yn chwarae yn Adran Un (Gogledd) Cynghrair Hoci Dynion. Mae eu hyfforddiant a gemau cartref wedi’u lleoli yng Ngerddi Sophia, Caerdydd.

Mae Hoci Cymru yn cynnal digwyddiadau amrywiol yng Ngerddi Sophia, o gemau rhyngwladol Cymru i wersylloedd hoci hanner tymor i chwaraewyr ifanc.

Digwyddiadau cysylltiedig

CYFARWYDDIADAU

Sport Wales National Centre, Sophia Gardens, Cardiff, CF11 9SW

CYSYLLT

Ffôn

02920 334909

E-bost

info@hockeywales.org.uk

Cyfeiriad

Sport Wales National Centre, Sophia Gardens, Cardiff, CF11 9SW