Mae Ibis yng Nghanol Caerdydd wedi ei leoli gyferbyn ag Arena Motorpoint, ac yn agos at fywyd nos a thai bwyta Caerdydd. Mae Stadiwm y Principality, Neuadd Dewi Sant a Chanolfan Mileniwm Cymru yn agos i’w gilydd, fel ag y mae Castell Caerdydd, Parc Bute a Bae Caerdydd. Mae gan ein 102 o ystafelloedd gwely modern systemau oeri awyr, teledu Freeview a WiFi am ddim. Mwynhewch frecwast a phrydau nos yn ein bwyty, neu ymlaciwch â diod yn y bar cyfeillgar. Mae maes parcio taladwy ar gael a thaith gerdded 2 funud o’r gwesty.
Ar y ffordd
Wedi gadael yr M4 ar gyffordd 29 ar i’r A48. Cymerwch y 3edd lôn ymadael (Dwyrain Caerdydd/Dociau(, dilynwch yr arwyddion am Ganol y Ddinas (A4161/Heol Casnewydd). Arhoswch ar Heol Casnewydd am 2 filltir. Unwaith y byddwch yng nghanol y ddinas, trowch i’r chwith i Rodfa'r Orsaf yn union wedi’r Bont Reilffordd a chyferbyn â siop Sainsbury. Heibio i Orsaf Heol y Frenhines ac wrth y goleuadau traffig nesaf trowch i’ch chwith i Ffordd Churchill lle mae’r gwesty wedi ei leoli.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Mae’r Ibis wedi ei leoli ond 5 munud o Orsaf Heol y Frenhines Caerdydd ac yn union oddi ar Ffordd Churchill, lle mae nifer o fysiau canol y ddinas yn gweithredu.
Ffôn
029 2064 9250
E-bost
H2936@accor-hotels.com
Cyfeiriad
Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2HA