Neidio i'r prif gynnwys

IBIS BUDGET CARDIFF CENTRE

Mae lleoliad canolog y gwesty hwn yn rhoi dewisiadau lu ar gyfer busnes, siopa a bywyd nos yn union wrth law. Mae’r 157 o ystafelloedd ensuite a chroesawgar sydd fel pin mewn papur yn barod i’ch croesawu’n hollol ddi-ffwdan

Ibis Budget Cardiff Centre Ibis Budget Cardiff Centre Ibis Budget Cardiff Centre Ibis Budget Cardiff Centre Ibis Budget Cardiff Centre Ibis Budget Cardiff Centre

Mae lleoliad canolog y gwesty hwn yn rhoi dewisiadau lu ar gyfer busnes, siopa a bywyd nos yn union wrth law. Mae’r 157 o ystafelloedd ensuite a chroesawgar sydd fel pin mewn papur yn barod i’ch croesawu’n hollol ddi-ffwdan. Byddwch yn cael eich croesawu i ardal gyhoeddus agored le gallwch gael paned o de a choffi am ddim, pweru eich dyfeisiau, a chymryd eich amser dros frecwast cyfandirol di-ben-draw bob bore.

Yn goferu ag atyniadau, mae digon gan brifddinas Cymru i’w chynnig. Yn ogystal â Stadiwm Principality (Stadiwm y Mileniwm), sef stadiwm cenedlaethol y wlad, mae Caerdydd dwt yn gartref i fyd bywyd nos cyfleus, diwylliant i ymdrochi ynddo a Bae Caerdydd sydd mor wefreiddiol.

Wedi ei leoli 10 munud o gerdded o Orsaf Caerdydd Ganolog a 15 munud o gerdded o Stadiwm y Mileniwm, mae’r Ibis Budget yn cynnig ystafelloedd modern, parcio preifat a llecynnau rhyngrwyd di-wifr.

Mae ystafell gawod ensuite ym mhob ystafell yn Ibis budget, ynghyd â theledu sgrin fflat a desg. Ceir ambell stafell sydd â gwely dwbl a gwely sengl bync gyda lle i 3 gwestai. Mae system oeri’r awyr ym mhob ystafell.

Mae Gwesty’r Ibis Budget hanner milltir o ardal siopa’r Aes ac mae arfordir Cymru milltir i ffwrdd. Dyma rai o hoff bethau ein gwesteion am Gaerdydd yn ôl adolygiadau annibynnol.

Ffôn

029 2045 8131

E-bost

h6175@accor.com

Cyfeiriad

Stryd Tyndall, Caerdydd CF10 4BE