Neidio i'r prif gynnwys

LET THEM SEE CAKE

Helo shwmae!  Croeso i LetThemSeeCake, os mai dyma'ch tro cyntaf yn dod o hyd i ni, on’d y’ch chi’n lwcus....

Na o ddifri, dyma beth ry’n ni’n ei wneud!

Ry’n ni’n siop deisennau gartrefol yng nghanol Parc Fictoria, Caerdydd, sy’n cynnig teisennau hufen menyn chwaethus wedi’u creu â llaw ar gyfer unrhyw achlysur. O ddydd i ddydd, rydym hefyd yn cynnig macarŵns ffres a danteithion melys eraill fel ychwanegiadau perffaith. Beth am eistedd yn ein caffi gyda rhywbeth melys a phaned o goffi Coaltown ffres neu baned o de dail Bird&Blend i fynd gydag e – a chofiwch bostio ar Instagram!

Gwelwyd Gareth, Ryan, a’r tîm yn serennu yn eu cyfres ddogfen 5 rhan eu hunain ar BBC One Wales a BBC3 o’r enw HOT CAKES, lle cafodd y gwylwyr gyfle i fynd y tu ôl i’r cownter i weld sut mae rhedeg siop gacennau, yn ogystal â thwrio i fywydau personol y tîm a’u cwsmeriaid diddorol.

Ry’n ni’n edrych ymlaen i roi croeso cynnes i chi!

DIRECTIONS