Neidio i'r prif gynnwys

MAES PARCIO NCP PLAS DUMFRIES

Tocynnau digwyddiad ar gael ar ddiwrnodau digwyddiadau mawr am £16.95 (talu wrth gyrraedd, dim arian parod) ym meysydd parcio NCP Knox Road ac NCP Plas Dumfries.

P’un a ydych chi yma i siopa neu fwynhau bach o ddiwylliant, cadwch le ym maes parcio’r NCP ym Mhlas Dumfries, Caerdydd i wneud eich diwrnod bach yn haws.

Wedi’i leoli’n ganolog ac o fewn pellter cerdded i brif leoliad siopa Caerdydd, Canolfan Capitol, mae ein maes parcio ym Mhlas Dumfries yn tynnu’r straen mas o’ch diwrnod yn y ddinas. Os nad ydych chi’n bwriadu gwario a gwario a’ch bod chi ar drywydd rhywbeth mwy diwylliannol, yna mae Amgueddfa Caerdydd hefyd o fewn taliad carreg i’r maes parcio cyfleus hwn.

Nodwch fod angen i chi fynd i gyfeiriad Plas Eglwys Andreas a throi i Lôn Eglwys Andreas i fynd i faes parcio NCP Plas Dumfries.

PARCIO AM BRIS GOSTYNGOL GYDAG NCP A CHROESO CAERDYDD

GALLWCH BARCIO AM 7 AWR AM £6.99

Mwynhewch hyd at 7 awr o barcio am £6.99 trwy’r ap NCP.

Lawrlwythwch yr ap iPhone neu Android i’ch dyfais symudol a chofrestru ar gyfer cyfrif (neu fewngofnodi), yna dan eich proffil, ychwanegwch y cod hyrwyddol ‘VISITCARDIFF’. Pan fyddwch yn mynd i dalu am barcio drwy’r ap (Park Now), dylai’r gost am yr opsiwn 7 awr fod yn £6.99.

PARCIO GYDA'R NOS AM £4

Parciwch rhwng 6pm a 3am am ddim ond £4 drwy’r ap NCP.

Lawrlwythwch yr ap iPhone neu Android i’ch dyfais symudol a chofrestru ar gyfer cyfrif (neu fewngofnodi), yna dan eich proffil, ychwanegwch y cod hyrwyddol ‘VISITCARDIFF’. Pan fyddwch yn mynd i dalu am barcio drwy’r ap (Park Now), dylech weld y cynnig perthnasol fel opsiwn pris.

DIRECTIONS

Dumfries Place, Off St Andrews Lane, Cardiff, CF10 3FN