Mae Neuadd Dewi Sant yng nghanol y ddinas. Hon ydy’r Neuadd Gyngherddau Genedlaethol a Chanolfan Cynadleddau Cymru. Yn eiddo i ac wedi ei rheoli a’i hariannu gan Gyngor Caerdydd, mae’r Neuadd yn cynnig ystod eang o adloniant byw. Gyda dau far, ynghyd â gweithdai i gyfranogi ynddynt, cynadleddau, staff cyfeillgar ac amgylchedd ymlaciol, mae Neuadd Dewi Sant yn adeilad i’w fwynhau yn ystod y dydd a chyda’r nos gydol y flwyddyn.
Neuadd gyngerdd â 2,000 o seddi, gydag awditoriwm trawiadol o weledol ac o bosib yr acwsteg sain gyda’r gorau yn Ewrop, ers ei agor ym 1983 mae Neuadd Dewis Sant wedi cyflawni ar yr addewid i ddod yn ganolfan o ragoriaeth ddiwylliannol sy’n meddu ar raglen amrywiol o adloniant o ansawdd a hwnnw’n hygyrch i bawb.
REFRESHMENTS
Bydd ein Lolfa Jin newydd sbon ar agor ym mis Medi ar gyfer pob perfformiad yn yr awditoriwm gyda’r hwyr. Wedi ei leoli ar y pedwerydd llawr gan gynnig dros 30 o fathau o jin, y gwirodydd gorau, coctêls a siampaen – Iechyd Da! Byddwn hefyd yn cynnig gwinoedd blasus, rhagor o gwrw crefft a dewis bendigedig o ddiodydd ysgafn.
Gallwch osgoi ciwio adeg yr egwyl ac archebu eich diod egwyl cyn dechrau’r cyngerdd. Mae’r ddau far yn cynnig y gwasanaeth archebu diodydd egwyl hwn. Mae Bar Lefel 3 hefyd yn cynnig lle delfrydol i wylio’r Gemau Rygbi Cartref a gaiff eu chwarae yn Stadiwm y Principality sydd ond 5 munud i ffwrdd ar droed, gyda Sgrin Anferth, bwyd cynnes a diod gydol y gêm. Rydym yn leoliad poblogaidd, da ar gyfer teuluoedd sy’n cynnig croeso cynnes iawn i gefnogwyr rygbi o Gymru a thu hwnt. Mwynhewch luniaeth cyn y gêm cyn mynd draw i’r stadiwm neu arhoswch gyda ni i wylio’r cyffro!
Parcio
Mae digon o le parcio ar gael ym maes parcio Dewi Sant Dewi Sant.
Ar Fws
Yr arosfannau bysiau agosaf yw Canal Street, Knigsway neu Churchill Way.
Ar y Trên
Y gorsafoedd rheilffordd agosaf yw Canol Caerdydd neu Cardiff Street Street, mae'r ddwy o fewn pellter cerdded byr.
Ffôn
029 2087 8444
E-bost
SDHboxoffice@cardiff.gov.uk
Cyfeiriad
Yr Aes, Caerdydd, CF10 1AH