Neidio i'r prif gynnwys

Mae'r Pitch Bar & Eatery yn lle braf a chyfeillgar i fwynhau blas ar Gymru. Yn falch o gynnig popeth Cymreig, o’r cerdyn coctels i’r fwydlen.

Ar agor o frecwast tan amser coctels bob dydd, mae pob pryd bwyd rydyn ni’n ei weini’n cael ei baratoi â chariad yn ein cartref yn Lôn y Felin.

Rydyn ni’n hynod annibynnol, gan ymfalchïo yn ein bwyd Cymreig syml, gonest a modern. Mae’n obsesiwn gennym ni chwilio am y cynhwysion gorau, mwyaf blasus y gallwn ni ddod o hyd iddynt yn lleol o ffermwyr, tyfwyr, cynhyrchwyr a marchnadoedd, gan eu hasio ynghyd i greu blasau arloesol a phrydau ffres, cyffrous a syfrdanol, gan ddefnyddio ein brwdfrydedd i dynnu dwr i’ch dannedd.

Ffôn

029 2022 8882

E-bost

bookings@pitchcardiff.com

Cyfeiriad

3 Mill Lane, Cardiff, CF10 1FL