Neidio i'r prif gynnwys

Mae Arena Vindico yn lleoliad unigryw, amlbwrpas gyda 2 lawr rhew a seddi ar gyfer dros 3000 o wylwyr yng nghanol Bae Caerdydd.

Mae’r Arena ar agor i’r cyhoedd gael sglefrio yno trwy’r flwyddyn – gallwch sglefrio iâ ym mhob tywydd, nid y Gaeaf yn unig!

Mae’r rhain yn sesiynau cyhoeddus ar gyfer pawb, gan gynnwys myfyrwyr, hen sglefrwyr a phlant bach, ac mae hefyd sesiynau gyda’r nos i’r rheiny sy’n hoffi ymlacio ar ôl diwrnod prysur yn y gwaith neu’r ysgol.

Mae sglefrio iâ yn ddiwrnod allan gwych i’r teulu, i ffrindiau neu hyd yn oed yn ddêt perffaith, lle gallwch gael hwyl ar yr iâ. Cofiwch, yr iâ yw’r canolbwynt a bydd pawb yn syrthio! Ar ôl sglefrio, beth am alw draw i’r Grazing Shed i fwynhau pryd o fwyd byrgyrs blasus? Y ffordd berffaith i ymlacio ar ôl sglefrio.

O fis Medi i fis Mawrth, mae Arena Vindico yn gartref i Dîm Hoci Iâ Cynghrair Elît, Cardiff Devils, sydd wedi ennill y gynghrair ac wedi dod yn ail dros y 5 tymor diwethaf. Fel arfer mae’r tîm yn chwarae o leiaf un gêm gartref yr wythnos. Mae hoci iâ yn gamp sy’n addas i’r teulu mewn atmosffer cyflym, cyffrous a gwefreiddiol i bawb sy’n mynd yno i’w gweld nhw wrthi!

Ynghyd â bod yn hwb sglefrio iâ yn ne Cymru, mae Arena Vindico yn cynnal digwyddiadau amrywiol o rwydweithiau busnes i gynadleddau, ac rydym yn falch iawn o gynnig gwasanaeth arlwyo i anghenion penodol cwsmeriaid. Gyda pharcio am ddim ar y safle, a chan ein bod dim ond tafliad carreg o gysylltiadau bws a thrên, dyma’r lle perffaith ar gyfer eich digwyddiad.

Ymhlith y digwyddiadau eraill a gynhaliwyd yn yr Arena mae Pêl-rwyd Cymru, CheerSport Cymru a digwyddiadau Bocsio a Cage Warriors. Ar gyfer digwyddiadau llai, mae’r ardal Prif Far yn lleoliad perffaith ar gyfer partïon priodas a phen-blwydd, digwyddiadau corfforaethol, cyfarfodydd tîm a chynadleddau.

Yn y Car

Dilynwch yr A4232 gan ddefnyddio arwyddion AA ar gyfer Caerdydd Pointe a'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol.

Parcio

Mae digon o le parcio ar y safle gyda lleoedd i bobl anabl ar gael hefyd. Ar gyfer SatNav defnyddiwch god post CF11 0JS.

Ar Fws

Yr arhosfan bysiau agosaf yw Olympian Drive. Mae Bws Caerdydd yn gweithredu'r gwasanaeth Rhif 9, sy'n gadael Westgate Street yng Nghanol y Ddinas ac yn disgyn yn uniongyrchol y tu allan i'r arena.

Ar y Trên

Yr orsaf reilffordd agosaf yw Cogan, trwy wasanaeth rheolaidd Ynys y Barri o Ganol Caerdydd. Wrth adael yr orsaf croeswch y briffordd ac ar ôl croesi pont droed Pont-y-Werin, trowch i'r dde a dilynwch y ffordd o gwmpas nes i chi weld yr arena.

Ffôn

029 2078 9630

E-bost

info@icearenawales.com

Cyfeiriad

Olympian Drive, Cardiff, CF11 0JS