Neidio i'r prif gynnwys

AMSERLEN: DIWRNOD I’R TEULU

Mae’r amserlen hon yn berffaith ar gyfer egwyl Hanner Tymor neu Wyliau Haf ac yn sicrhau y bydd holl aelodau’r ‘r teulu yn cael diwrnod allan wrth eu bodd a chyfle i fwynhau eu cwmni ei gilydd.

STOP UN: TREETOP ADVENTURE GOLF

Am ychydig o hwyl i’r teulu, beth am fynd i Tree Top Golf?

Ewch am dro drwy fforest drofannol wyrddaf Caerdydd, lle mae’r taranau’n taranu, hen ysbrydion yn aflonyddu a golff mini’n gormesu! Ewch i chwarae ein dau gwrs golff 18 twll. Mae Llwybr Trofannol ac Antur Hynafol, cyn i chi herio’r 19eg twll i ennill rownd am ddim.  Bydd angen tua 90 munud arnoch chi i wneud y ddau gwrs, ac rydych chi’n siŵr o gael hwyl boed hindda neu law.

Yng nghanol y ddinas yng nghanolfan siopa Dewi Sant.   Gemau unigol o £9.  Tocynnau teulu £29.50. Does dim angen cadw lle – galwch heibio ar y dydd! Angen bwyd? Gloddestwch ar pizzas ffres Pizza Cabana a danteithio canol bore blasus.   Neu beth am goffi a danteithion o’r Rainforest Roast Café?

STOP DAU: SGLEFRIO IÂ YN ARENA IÂ CYMRU

Rhowch gynnig ar sgiliau cydbwyso wrth sglefrio ar yr iâ yn Arena Iâ Cymru.

Mae’r Arena Iâ’n cynnal sglefrio i’r cyhoedd bob dydd, ac yn cynnig sesiynau ‘dysgu sglefrio’ i ddechreuwyr yn rheolaidd. Beth am ddefnyddio’ch sgiliau a gweld pa mor urddasol y gallwch chi fod ar yr iâ?   Urddas neu beidio, mae’n ffordd wych o dreulio rhyw awren fach.  Ar gyrion y ddinas, ddim ond 5 munud mewn car o Fae Caerdydd, neu 10 munud mewn car o ganol y ddinas.  Trafnidiaeth gyhoeddus ar gael hefyd. Prisiau o £9.70.   Tocynnau teulu £24.90 Archebwch eich sesiwn sglefrio yma.

EGWYL OLAF: CINIO YN HONEST BURGERS

Wedi’r holl antur ’ma, beth am fynd i ganol y ddinas i Honest Burgers?  Bum munud ar drafnidiaeth gyhoeddus neu 15 munud ar droed (os ydych chi’n dal i deimlo’n egnïol). Mae gan Honest Burgers fyrgers cig eidion o’u cigydd eu hunain, sglodion rhosmari cartref wedi’u torri a’u coginio bob dydd a chwrw lleol o fragdai cyfagos.

Yn dechrau am £9 mae pob byrgyr yn cael ei weini gyda sglodion halen rhosmari cartref. Ac mewn cydweithrediad â Tiny Rebel, mae Church St Pale ar ael, ynghyd â G&T Pinc Caerdydd gyda Jin Mefus Benjamin Hall a cherddoriaeth gan Kelly’s Records. Cadwch fwrdd yma