Neidio i'r prif gynnwys

Y LLEOEDD GORAU I ASTUDIO YNG NGHAERDYDD

19 Mawrth 2024

____________________________________________________________

Mae dewis yr amgylchedd astudio cywir yn hanfodol ar gyfer llwyddiant academaidd a lles personol, ac mae Caerdydd, sy’n ddinas fywiog ac amrywiol, yn cynnig amrywiaeth o leoedd astudio sy’n addas ar gyfer gwahanol ddewisiadau ac anghenion. Bydd y canllaw cynhwysfawr hwn yn eich helpu i lywio’r lleoedd gorau i astudio yn y ddinas, gan sicrhau profiad academaidd cynhyrchiol a chyfoethog, p’un a yw’n well gennych dawelwch llyfrgell neu awyrgylch bywiog caffi.

LLYFRGELLOEDD PRIFYSGOL CAERDYDD

Awyrgylch: Mae’r llyfrgelloedd ym Mhrifysgol Caerdydd yn noddfeydd academaidd, ac mae gan bob un ei chymeriad ei hun. Mae Llyfrgell y Celfyddydau ac Astudiaethau Cymdeithasol yn adnabyddus am ei hamgylchedd tawel sy’n denu oriau o astudio di-dor. Ar y llaw arall, mae Canolfan Astudio Julian Hodge yn llawn egni cydweithredol, perffaith ar gyfer gwaith grŵp.

Adnoddau: Mae pob llyfrgell yn y brifysgol yn arbenigo mewn gwahanol feysydd, gan gynnig casgliadau helaeth o lyfrau, cyfnodolion academaidd ac adnoddau electronig. Mae Llyfrgell Bute yn darparu ar gyfer myfyrwyr pensaernïaeth a chynllunio, tra bod y Llyfrgell Iechyd yn llawn dop o adnoddau ar gyfer myfyrwyr sydd ar raglenni meddygol a gofal iechyd.

Awgrym Astudio: Defnyddiwch system archebu ar-lein y llyfrgell i gadw ystafelloedd astudio neu garelau ymlaen llaw. Gall hyn fod yn arbennig o fuddiol yn ystod amseroedd adolygu prysur neu wrth fynd i’r afael â phrosiectau grŵp.

AMGUEDDFA GENEDLAETHOL CAERDYDD

Awyrgylch: Mae’r Amgueddfa Genedlaethol yn gofeb i hanes a diwylliant Cymru, gan gynnig amgylchedd unigryw ac ysbrydoledig ar gyfer astudio. Gall yr arddangosion mawreddog gynnig awyrgylch heb ei ail a fydd yn rhoi hwb i’ch cymhelliant ac yn eich ysbrydoli.

Adnoddau: Ar wahân i’r Wi-Fi am ddim, mae’r amgueddfa’n gartref i gyfoeth o ddeunyddiau ymchwil, gan gynnwys dogfennau hanesyddol, gwaith celf ac arteffactau a all fod yn amhrisiadwy i fyfyrwyr yn y disgyblaethau celf a dyniaethau.

Awgrym Astudio: Gall corneli tawel yr amgueddfa yn ystod yr oriau tawel ddod yn gilfachau astudio personol wedi’u gosod yn erbyn cefndir treftadaeth Cymru.

PARC A LLYN Y RHATH

Awyrgylch: Mae Parc y Rhath yn ddihangfa dawel o brysurdeb y ddinas, gan gynnig lleoliad tawel ar lan llyn. Gall ei harddwch naturiol fod yn ateb lleddfol i straen academaidd, gan ei wneud yn fan delfrydol ar gyfer astudio myfyriol neu ddarllen.

Adnoddau: Mae’r parc ei hun yn adnodd ar gyfer lles, gan gynnig lle i adfywio’n feddyliol ac yn gorfforol. Gall y cysylltiad â natur helpu i dawelu meddyliau, yn enwedig wrth weithio ar bynciau sy’n gofyn am greadigrwydd a meddwl agored.

Awgrym Astudio: Dewch o hyd i ddarn o laswellt neu fainc mewn ardal dawel, yn ddelfrydol yn y bore pan fo’r parc ar ei dawelaf. Gall profiad synhwyraidd yr awyr agored helpu gyda chadw gwybodaeth a meithrin syniadau newydd.

CANOLFAN MILENIWM CYMRU

Awyrgylch: Mae Canolfan Mileniwm Cymru, tra’n ganolfan ar gyfer y celfyddydau perfformio yn bennaf, hefyd yn cynnig amgylchedd ysgogol i fyfyrwyr sy’n chwilio am le astudio gyda thro diwylliannol. Mae’r mannau cyhoeddus yn yr adeilad yn aml yn llawn golau naturiol ac mae ganddynt gyffro tawel a all ysgogi sesiynau astudio. Gall presenoldeb celfyddydau a pherfformio fod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth wych i fyfyrwyr creadigol a chelfyddydol.

Adnoddau: Er nad yw’n lleoliad astudio traddodiadol, mae gan y Ganolfan fynediad am ddim i Wi-Fi a nifer o fannau eistedd lle gall myfyrwyr weithio ar eu gliniaduron neu ddarllen. Mae ganddi hefyd gaffi lle gall myfyrwyr gael coffi neu rywbeth i’w fwyta yn ystod seibiannau astudio.

Awgrym Astudio: I fyfyrwyr sy’n chwilio am fan astudio anghonfensiynol, gall yr ardaloedd tawelach yn y Ganolfan, yn enwedig yn ystod yr oriau tawel pan nad oes perfformiadau, fod yn fannau perffaith i astudio. Argymhellir defnyddio clustffonau i wrando ar gerddoriaeth sy’n gwella ffocws os bydd lefel y sŵn cefndir yn codi.

LITTLE MAN COFFEE

Awyrgylch: Yn llawn egni bywyd y ddinas, mae Little Man Coffee yn ffefryn ymhlith myfyrwyr sy’n ffynnu mewn amgylchedd deinamig. Gall sŵn amgylchynol y baristas a’r cwsmeriaid greu mwmian cefndir tawelol ar gyfer astudio a darllen achlysurol.

Adnoddau: Mae’r caffi yn cynnig Wi-Fi cyflym ac amrywiaeth o opsiynau eistedd, o fyrddau cymunedol i gorneli mwy preifat i’r rhai y mae’n well ganddynt fod ar eu pen eu hunain.

Awgrym Astudio: Er bod y caffi yn gallu bod yn brysur, mae canol y prynhawn yn dawelach ac yn amser perffaith i ddod â llyfr neu liniadur. Gall arbenigedd y staff mewn coffi roi’r ddiod berffaith i chi allu cynnal eich ffocws.

LLYFRGELL GANOLOG CAERDYDD

Awyrgylch: Mae Llyfrgell Ganolog Caerdydd yn gyfleuster modern, aml-lefel sy’n cynnig amgylchedd tawel a strwythuredig. Mae dyluniad y llyfrgell, gyda’i mannau agored a’i golau naturiol, yn cynnig lleoliad tawel ar gyfer sesiynau astudio â ffocws.

Adnoddau: Y tu hwnt i’r casgliadau cynhwysfawr o lyfrau a chronfeydd data digidol, mae’r llyfrgell yn cynnwys cyfleusterau uwch, fel podiau astudio preifat ac ystafelloedd cyfrifiadurol, sy’n cynnig awyrgylch proffesiynol ar gyfer gwaith academaidd.

Awgrym Astudio: Mae ystafelloedd tawel a phodiau unigol y llyfrgell yn ddelfrydol ar gyfer adolygu’n ddwys neu pan fo canolbwyntio’n hollbwysig. Gall archebu’r lleoedd hyn yn ystod arholiadau greu man astudio personol yng nghanol y ddinas.

CANOLFAN GELFYDDYDAU’R CHAPTER

Awyrgylch: Mae Canolfan Gelfyddydau’r Chapter yn lleoliad diwylliannol lle mae’r cyfuniad o gelf, sinema a pherfformio yn creu awyrgylch ysgogol a all ysgogi eich astudiaethau. Mae’n fan lle mae creadigrwydd yn amlwg, yn berffaith i’r rhai mewn meysydd creadigol.

Adnoddau: Mae’r ganolfan yn cynnig mannau cyfforddus i weithio, caffi i adfywio ac amrywiaeth o amgylchoedd artistig. Mae’r Wi-Fi yn gadarn, ac mae’r amgylchedd yn groesawgar ac yn hamddenol.

Awgrym Astudio: Ceisiwch amseru sesiynau astudio o amgylch amserlen digwyddiadau’r ganolfan. Gall mynd i ffilm neu arddangosfa fer gynnig seibiant adfywiol a all hefyd ysgogi safbwyntiau newydd ar eich gwaith.

THE SUSTAINABLE STUDIO

Awyrgylch: Fel trawsnewidiad warws creadigol, mae The Sustainable Studio yn ofod cydweithio sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd. Mae’n gasgliad o unigolion o’r un anian ac mae’n cynnig awyrgylch o arloesi ac eco-ymwybyddiaeth.

Adnoddau: Nid yn unig y mae’n cynnig lle desg a chysylltiad â’r rhyngrwyd, ond mae hefyd yn cynnig mynediad i gymuned o entrepreneuriaid a phobl greadigol, a all fod yn amhrisiadwy ar gyfer rhwydweithio ac ysbrydoliaeth.

Awgrym Astudio: Ymgysylltwch â’r gymuned drwy fynd i weithdai a sgyrsiau. Gall y rhain gynnig seibiannau mawr eu hangen o astudio a chynnig mewnwelediadau newydd i’ch prosiectau eich hun, yn enwedig y rhai sydd ag agwedd amgylcheddol neu gymdeithasol.

PARC Y MYNYDD BYCHAN

Awyrgylch: Mae Parc y Mynydd Bychan yn cynnig lle gwyrdd sy’n berffaith ar gyfer dysgu, yn enwedig i’r rhai y mae’n well ganddynt leoliad awyr agored heddychlon. Mae’n arbennig o gyfleus i fyfyrwyr meddygol gan ei fod yn agos at yr ysbyty.

Adnoddau: Gall amgylchedd tawel y parc helpu gyda chofio a deall pynciau cymhleth, ac mae ei leoliad yn galluogi mynediad cyflym at adnoddau meddygol ymarferol.

Awgrym Astudio: Beth am gynnal sesiynau astudio dan do ac awyr agored bob yn ail. Defnyddiwch y parc i ddarllen a myfyrio, yna ewch i’r llyfrgell gyfagos i astudio â mwy o ffocws.

____________________________________________________________

Drwy archwilio’r mannau hyn, byddwch yn darganfod bod lleoliadau astudio Caerdydd nid yn unig yn amrywiol ond hefyd yn rhan o gymuned sy’n cefnogi eich taith academaidd. Mae pob lle yn cynnig naws unigryw ac adnoddau wedi’u teilwra i wahanol arddulliau astudio a dewisiadau, p’un a ydych yn darllen gwerslyfrau, yn trafod syniadau ar gyfer eich traethawd nesaf, neu dim ond yn ceisio newid golygfeydd. Mae mannau astudio Caerdydd yn adlewyrchu amrywiaeth a natur groesawgar y ddinas. Astudio hapus!