Neidio i'r prif gynnwys

Pa le gwell i flasu’r bwyd sydd gan Gymru i’w gynnig nag yma yn y brifddinas ac rydym wedi llunio rhestr o fwytai a sefydliadau bwyta sy’n defnyddio cynnyrch Cymreig o safon. Cadwch lygad am arbenigeddau Cymreig fel pastai cyw iâr a chennin, brecwastau Cymreig gyda chocos a bara lawr, selsig Morgannwg, bara brith a phice ar y maen cynnes a ffres – dyma’r blas gorau sydd gan Gaerdydd i’w gynnig.

DINAS GYNALIADWY

Rydyn ni’n falch o fod wedi ennill gwobr Lle Bwyd Cynaliadwy Arian 2021, gan ddod y lle cyntaf yng Nghymru (ac un o ddim ond chwe lle yn y DU) i gyflawni'r anrhydedd fawreddog. Mae hyn yn golygu bod ein busnesau lletygarwch yn cymryd camau fel rhoi’r gorau i ddefnyddio plastig untro, defnyddio mwy o ffrwythau a llysiau mewn prydau bwyd, lleihau gwastraff bwyd, cyrchu cynnyrch yn lleol, byrhau cadwyni cyflenwi a rhannu gwybodaeth ac arbenigedd gyda'r gymuned leol.

DIODYDD CYMREIG

P’un a’ch bod chi eisiau peint traddodiadol o gwrw Brains mewn tafarn draddodiadol Gymreig, neu eisiau rhoi cynnig ar gwrw crefft gan un o’n microfragdai niferus, dyma’r llefydd gorau i fachu sedd a mwynhau diod (neu ddwy) i dorri’r syched. Iechyd da!

ARCHWILIO TREFTADAETH CYMRU YN SAIN FFAGAN

Os oes diddordeb gennych ddarganfod mwy am ein treftadaeth a'n hanes Cymreig, beth am ymweld â Sain Ffagan? Nid eich amgueddfa hanes nodweddiadol mohono. Mae'r atyniad awyr agored hwn yn gartref i amrywiaeth o adeiladau sydd wedi'u hadfer yn ofalus o wahanol gyfnodau yn hanes Cymru, o bob cwr o Gymru. Mae gan Sain Ffagan siop fara draddodiadol, hen siop nwyddau cyffredinol sy'n gwerthu cynnyrch Cymreig ac ar hyn o bryd maent wrthi'n ailadeiladu 'Tafarn y Vulcan' yn ofalus a agorodd gyntaf ym 1853.

YN FFRES O’R FARCHNAD

Aros mewn llety hunanarlwyo neu’n byw yn lleol? Yna codwch gynnyrch ffres Cymreig i’w fwyta gartref, neu’ch cartref oddi cartref. Yn gyntaf, beth am fynd yn syth i’r ffynhonnell ac ymweld â Marchnad Dan Do Caerdydd (ar agor Llun-Sadwrn 8am-5:30pm) neu ewch i grwydro o amgylch un o Farchnadoedd Ffermwyr wythnosol y ddinas, gyda Glan-yr-afon (ar ddydd Sul) ychydig funudau ar droed o ganol y ddinas, ynghyd â’r Rhath (ar ddydd Sadwrn) sydd llai na hanner awr ar droed o’r canol a Rhiwbeina (ar ddydd Gwener) yng ngogledd y ddinas.

A GORFFEN GYDA PHICE AR Y MAEN FFRES

Cyn i chi adael y ddinas, gwnewch yn siŵr eich bod yn prynu llond llaw o bice ar y maen cynnes. Gallwch ddewis rhai traddodiadol gyda resins neu fynd am rywbeth gwahanol a dewis rhai gyda jam, siocled, lemwn neu gnau coco - neu hyd yn oed dewis amrywiaeth ohonynt i weld pa un yw'ch ffefryn! Gallwn awgrymu Cardiff Bakestones yn y Farchnad Ganolog, neu Fabulous Welshcakes yn Arcêd y Castell yng nghanol y ddinas neu yng Nghei'r Fôr-forwyn ym Mae Caerdydd.