Beth wyt ti'n edrych am?
Croeso’n ôl i Gaerdydd.
Ar 12 Ebrill bydd siopau a gwasanaethau cyswllt agos yng Nghaerdydd unwaith eto yn agor eu drysau i’r cyhoedd. Bydd cyfyngiadau teithio o fewn y DU a’r Ardal Deithio Gyffredin hefyd yn cael eu codi ar 12 Ebrill. Os ydych yn bwriadu teithio i Gaerdydd mae’n bwysig cynllunio eich taith i mewn ac o amgylch Caerdydd ymhell ymlaen llaw.

GOLCHWCH EICH DWYLO
Golchwch eich dwylo yn rheolaidd ac i fanteisio ar y cyfleusterau glanweithio dwylo sydd ar gael. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth siopa, os ydych chi wedi codi pecyn neu’n trin bwyd.

GWISGWCH GORCHYDD WYNEB
Mae gwisgo gorchudd wyneb bellach yn ofyniad cyfreithiol ym mhob man dan do cyhoeddus i bawb sy’n 11 oed neu’n hŷn. Mae hyn yn cynnwys siopau, lleoliadau tecawê a thrafnidiaeth gyhoeddus.

CADWCH EILL PELLTER CYMDEITHASOL
Cofiwch fod yn rhaid i chi gadw’r pellter cymdeithasol 2m priodol rhyngoch chi ac unrhyw un nad yw’n aelod o’ch cartref neu’ch teulu estynedig.
YMWELD Â CHAERDYDD O GARTREF
Efallai na fyddwch yn gallu ymweld â Chaerdydd ar hyn o bryd oherwydd y toriad tân, ond gallwch barhau i 'ymweld â Chaerdydd o gartref'. Rydyn ni wedi llunio llwyth o syniadau gwych ar gyfer mwynhau Caerdydd heb orfod camu allan o'ch drws ffrynt!