Neidio i'r prif gynnwys

Mae treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog i Gymoedd De Cymru.  Lle bu unwaith linellau glo yn cysylltu’r Cymoedd a Bae Caerdydd, bellach mae cledrau trenau’n gorwedd, gan hwyluso teithio rhwng prifddinas Cymru a thirwedd ehangach, amrywiol y De.

Yng Nghymoedd y De, fe welwch chi 12 Porth Darganfod – pob un yn unigryw ac yn eich arwain i  archwilio harddwch naturiol yr ardal. Maen nhw’n llefydd lle gallwch chi fynd allan i’r awyr agored, cael hwyl a darganfod mwy am fyd natur.

CANOLFAN TREFTADAETH Y BYD BLAENAFON

Ger Pontypool · 45 munud o Gaerdydd

 

Wedi’i leoli’n rhannol o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn dyst i lowyr a gweithwyr haearn y gorffennol.

Yn ymestyn dros 33 cilometr sgwâr, a gyda’r atyniadau, y digwyddiadau a’r gweithgareddau sydd i’w cael yma, mae digon i lenwi’r diwrnod allan perffaith.

PARC GWLEDIG BRYNGARW

Pen-y-bont · 25 munud o Gaerdydd

 

Mae Parc Gwledig Bryngarw wedi’i leoli mewn dros 100 erw o barcdir, ac mae’n brysur o ran ymwelwyr ac yn llawn bywyd gwyllt. Gyda choetiroedd, gwlyptiroedd, dolydd a gerddi i’w harchwilio — yn ogystal ag amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfleusterau hwyliog i’r teulu cyfan eu mwynhau — mae rhywbeth i’w wneud ym Mryngarw bob amser, beth bynnag fo’r tymor.

CASTELL CAERFFILI

Caerffili · 15 munud o Gaerdydd

 

Castell Caerffili yw castell mwyaf Cymru ac ail yn unig drwy Brydain i Gastell Windsor. Gyda thyrrau i’w harchwilio, gwâl y ddraig a’r Neuadd Fawr i’w darganfod, mae Castell Caerffili yn cynnig y maes chwarae perffaith i egin haneswyr.

O orsaf drenau Caerdydd Canolog, bydd trên Ystrad Mynach yn mynd â chi yn syth drwodd i Gaerffili. Wedyn dim ond taith gerdded 10 munud yw hi i’r Castell o’r orsaf (dylech allu ei weld yn y pellter!)

FFORDD GOEDWIG CWMCARN

Ger Rhisga · 30 munud o Gaerdydd

 

O anturiaethau gwefreiddiol i seibiannau tawel dros nos, mae Coedwig Cwmcarn yn ddigon agos i encilio iddo eto mae’n teimlo fel eich bod ymhell bell i ffwrdd o brysurdeb bywyd y ddinas. Mae bryniau’r ardal hon a gloddiwyd yn flaenorol wedi’u trawsnewid yn goedwigoedd heddychlon gyda golygfeydd trawiadol, llwybrau cerdded a beicio mynydd, afonydd, cronfeydd dŵr a chymaint mwy.

CASTELL A PHARC CYFARTHFA

Merthyr Tudful · 30 munud o Gaerdydd

 

Wedi’i leoli mewn 160 erw o barcdir gyda golygfeydd godidog ar draws y dyffryn, mae Parc Cyfarthfa yn cynnig diwrnod gwych allan i’r teulu cyfan.

Mwynhewch heddwch a chysur Caffi Canolfan Cyfarthfa wrth wylio’ch plant yn chwarae yn y Pad Sblasio a’r maes chwarae, ewch ar y rheilffordd fechan, chwaraewch dennis, mwynhewch Lwybr Natur Crawshay, neu ewch i weld y cerfiadau pren hardd yn y goedwig.

PARC GWLEDIG CWM DÂR

Aberdâr · 40 munud o Gaerdydd

 

Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn gartref i dros 500 erw o deithiau cerdded, llwybrau a hwyl i’r teulu mewn coetiroedd, coetir pori a rhostir — sy’n gartref i doreth o fywyd gwyllt gan gynnwys adar gwyllt ac adar y dŵr.

Gyda llu o weithgareddau ar gael fel Disgyrchiant – Parc Beiciau i Deuluoedd Cwm Dâr, mae rhywbeth i bawb!

PARC BRYN BACH

Tredegar · 35 munud o Gaerdydd

 

Wedi’i leoli mewn 340 erw o laswellt a choetir hyfryd gyda llyn 36 erw trawiadol, mae Parc Bryn Bach yn lleoliad perffaith ar gyfer anturiaethwyr o bob oed a gallu. Mae’r Parc yn gartref i amrywiaeth o weithgareddau awyr agored sy’n addas i’r teulu, gan gynnwys amrywiaeth o chwaraeon dŵr dan oruchwyliaeth — o nofio i gaiacio a phadlfyrddio i ganŵio — a’r cyfan yn digwydd ar y llyn hardd.

PARC PENALLTA

Ger Ystrad Mynach · 25 munud o Gaerdydd

 

O ardaloedd agored iawn y llwyfandir i’r mannau mwy cartrefol yn rhan isaf y safle, mae Parc Penallta yn llawn o drysorau cudd i chi eu darganfod Dewch i gerdded drwy’r twnnel helyg, gwylio campau gwas y neidr yn yr awyr uwchben y pwll neu chwilio am y Cawr Cwsg, a bydd eich gwobr yn werth yr ymdrech.

GWARCHODFA NATUR PARC SLIP

Pen-y-bont · 25 munud o Gaerdydd

 

Mae Parc Slip yn gartref i dros 1,000 o rywogaethau o fywyd gwyllt anhygoel a rhai o blanhigion prinnaf  Cymru.  O’r fadfall ddŵr gribog sydd mewn perygl o ddiflannu ac sy’n magu yn y pyllau a’r llynnoedd, i’r llygod medi swil a’r cornchwiglod carismataidd sydd i’w gweld yn y dolydd blodau gwyllt. Mae’r dolydd hynny hefyd yn llawn tegeirianau, carpiog y gors a blodau menyn.

PARC YNYSANGHARAD A LIDO CENEDLAETHOL

Pontypridd · 15 munud o Gaerdydd

 

Mae Parc Ynysangharad a’r Lido Cenedlaethol yn atyniad hanesyddol i deuluoedd, a dyma brif bwll awyr agored Cymru.

Y parc chwarae antur ar thema diwydiannol yw’r unig un o’i fath yng Nghymru. Ac nid oes yr un daith yn gyflawn heb fynd i’r Ganolfan Ymwelwyr — gyda byrddau gwybodaeth am dreftadaeth, gemau a phosau rhyngweithiol, sgriniau fideo mawr a llawer mwy yn aros i gael eu darganfod.

I gyrraedd Ynysangharad o Gaerdydd Canolog, neidiwch ar y trên i Bontypridd ac ewch am dro byr o’r orsaf i’r parc!

Dewch o hyd i wybodaeth bellach am Barc Rhanbarthol y Cymoedd.

CRWYDRO’R AWYR AGORED YNG NGHAERDYDD

O draciau beicio i rafftio dŵr gwyn, mae digon o ffyrdd i chi anturio y tu allan yn ein prifddinas.