Neidio i'r prif gynnwys

HELO A CHROESO I GAERDYDD

Rydym yma i helpu i wneud eich ymweliad mor hawdd a phleserus â phosibl. Os ydych chi’n chwilio am wybodaeth i ymwelwyr am Gaerdydd, yna rydych chi wedi dod i’r lle cywir! Rydym wedi cynnwys tudalen o’n holl awgrymiadau i dwristiaid, yn ogystal â mapiau y gellir eu lawrlwytho a gwybodaeth am gyrraedd Caerdydd a theithio o amgylch y ddinas.

Os ydych eisoes wedi cyrraedd ac mae angen peth cyngor arnoch, gwnewch yn siŵr eich bod yn galw heibio ein Man Gwybodaeth i Ymwelwyr yng Nghastell Caerdydd. Ydych chi’n chwilio am y lle perffaith i barcio eich car? Mae’n bosibl y byddech am ddefnyddio’r gwasanaethau ‘parcio a theithio’ rhad a dibynadwy sydd ar gael yng Nghaerdy d.

YN YMWELD AR GYFER DIGWYDDIAD MAWR?

Gwybodaeth i Yrwyr

Mae Caerdydd yn falch o gynnal llawer o ddigwyddiadau mawr trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys gemau chwaraeon rhyngwladol a chyngherddau byw, yn ogystal â gwyliau.

Mae sawl ffordd o deithio i Gaerdydd beth bynnag yw’r rheswm dros eich ymweliad â’r ddinas, ond mae ambell beth i fod yn ymwybodol ohono i wneud yn siŵr eich bod yn cael y gorau o’ch ymweliad.

Cofiwch fod mae ffyrdd ar gau fel arfer yn ystod digwyddiadau mawr, gan effeithio ar ffyrdd fel Stryd y Castell a Heol y Porth. I gael gwybodaeth benodol am ffyrdd sydd ar gau, gwasanaethau parcio a theithio, a newidiadau eraill, darllenwch yr erthygl flog penodol am deithio sy’n cael ei rhyddhau yn ystod yr wythnos pan gynhelir digwyddiad mawr (neu’r wythnos cyn hynny).

Bydd y blog hwn hefyd yn tynnu sylw at barcio cyfagos sy’n briodol i’ch gofynion, er mwyn eich helpu i gynllunio ymlaen llaw.

Gwybodaeth i Ddefnyddwyr Trenau

Os byddwch yn defnyddio’r rhwydwaith trenau, fel arfer mae gan Trafnidiaeth Cymru systemau ciwio a staff ychwanegol yng ngorsaf reilffordd Caerdydd Canolog i sicrhau bod gwesteion yn cyrraedd yn ddiogel y man lle mae angen iddynt fod. Darllenwch eu canllawiau am ddigwyddiadau penodol i gael rhagor o wybodaeth.

Os ydych chi’n byw yn lleol, beth am roi cynnig ar gerdded neu feicio i’r dref trwy rentu Nextbike?

BYDDWCH YN FRENIN (NEU'N FRENHINES) Y CASTELL

Dewch i ddarganfod atyniad twristaidd cyntaf Caerdydd - mae Castell hanesyddol Caerdydd dros 2000 mlynedd oed ac mae'n angori canol y ddinas. Mwynhewch y sgwâr cyhoeddus, neu ewch ar daith i ddarganfod yr hanes y tu ôl i'r adeilad trawiadol.

Gobeithio i chi fwynhau eich ymweliad â Chaerdydd. Os gallwn ni eich helpu ymhellach:

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer E-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, cynigion arbennig, y cynnwys diweddaraf a mwy gan CroesoCaerdydd.com