Neidio i'r prif gynnwys

EIN TEITHIAU AWGRYMEDIG

Rydym yn gwybod y gall fod yn anodd dewis ble i fynd gyda chymaint o ddewis yn ein prifddinas, ac mae’n anodd gwybod ble sy’n wirioneddol hygyrch. Dyna pam rydym wedi llunio dwy daith, sy’n berffaith ar gyfer newydd-ddyfodiaid (neu’r rhai sy’n dychwelyd) sy’n archwilio ein dinas.

48 AWR YNG NGHANOL Y DDINAS (DIFYR, CYFEILLGAR A HYGYRCH)

48 AWR YM MAE CAERDYDD (DIFYR, CYFEILLGAR A HYGYRCH)

TEITHIO I GAERDYDD AC YNDDI

Mae sawl ffordd o gyrraedd prifddinas Cymru. I gael rhagor o wybodaeth am gyrraedd Caerdydd, gweler yma. I gael gwybodaeth am sut i deithio o le i le yn y ddinas ar ôl cyrraedd, gweler yma.

Os ydych yn mynd ar fws, fe welwch fod gan y mwyafrif fynediad lefel isel (heb risiau) ac mae pob llwybr lleol yn derbyn Tocyn Bws Rhatach Cymru.

BYGI SYMUDEDD CANOL Y DDINAS

Gwasanaeth cerbydau trydan am ddim yw hwn i’r rhai sydd angen help i gael mynediad i ganol y ddinas.  Gall y cerbydau gario hyd at 3 theithiwr yr un ac maent yn teithio o amgylch canol y ddinas ar lwybr hyblyg, Llun-Gwener 8am-4pm a dydd Gwener 8am-3.30pm.  Tynnwch sylw gyrrwr y cerbyd i gael lifft neu archebwch gerbyd ymlaen llaw ar +44 (0)29 2087 3888.

SGWTERI SYMUDEDD A CHADEIRIAU OLWYN

Mae gwasanaeth am ddim, sy’n cynnig rhentu sgwteri a chadeiriau olwyn am y dydd, ar gael o ganolfan siopa Dewi Sant, ar lefel P3 (lefel gyntaf y maes parcio). Fodd bynnag, mae angen archebu hyn o leiaf 48 awr ymlaen llaw ar eu gwefan.

Mae ar gael o ddydd Llun i ddydd Sadwrn 10am-6pm a dydd Sul 11am-5pm.

Parc Cefn Onn – Llogi Tramper

TOILEDAU A MANNAU NEWID HYGYRCH

Mae nifer o leoliadau ar draws y ddinas yn darparu toiledau hygyrch yn ystod oriau agor. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Canolfan Siopa Dewi Sant
  • Canolfan Siopa’r Capitol
  • Canolfan Siopa Arcêd y Frenhines
  • Llyfrgell Ganolog Caerdydd

Efallai y bydd angen allwedd RADAR arnoch i gael mynediad i’r rhain, ond gellir prynu hon o Lyfrgell Ganolog Caerdydd.

Mae mannau newid ar gael yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

DEWCH Â GOFALWR, CYNORTHWYYDD PERSONOL NEU GYDYMAITH HANFODOL

Os oes angen gofalwr neu gydymaith arnoch i’ch helpu i fwynhau adloniant a gweithgareddau yn y ddinas, yna mewn llawer o achosion gallwch gael tocyn gofalwr am ddim ar ei gyfer.

Os oes gennych chi gerdyn Hynt am ddim (trigolion Cymru), byddwch yn gallu cael tocyn gofalwr am ddim ar gyfer sioeau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Theatr Newydd, Neuadd Dewi Sant, Theatr y Sherman a’r Chapter (perfformiadau byw).

Mae Stadiwm Principality yn cynnig seddi anabl i rai sy’n defnyddio cadeiriau olwyn a’r rhai sydd ddim, ac mae Arena Ryngwladol Caerdydd yn gweithredu cynllun hygyrchedd. Mae Clwb Ifor Bach yn cynnig tocynnau i ofalwyr, tra bo Tramshed a Cardiff Students’ Union yn cynnig tocynnau i ofalwyr yn ogystal ag ardal dawelach i’r rhai sydd ei hangen. Ceir rhagor o wybodaeth ar eu gwefannau:

Os oes gennych chi gerdyn CEA am ddim (trigolion y DU), gallwch gael tocyn gofalwr am ddim yn Odeon IMAX, Cineworld 4DX, Vue, Sinema Everyman, Premiere a’r Chapter (dangosiadau sinema).

Os ydych yn ymweld â’n hatyniadau diwylliannol, mae Castell Caerdydd yn cynnig mynediad am ddim i ofalwyr. Mae Castell Coch yn cynnig mynediad am ddim i ymwelwyr anabl a’u gofalwyr fel ei gilydd.

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn rhoi mynediad am ddim i bawb. Mae Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yn rhoi mynediad am ddim i bawb, ac mae’n cynnig parcio am ddim i bobl anabl sydd â Bathodyn Glas (£6 fel arall).

YMWELD Â CHANOLFAN SIOPA DEWI SANT

Os ydych yn chwilio am wybodaeth i’ch helpu i symud o gwmpas Canolfan Siopa Dewi Sant yn haws, edrychwch ar ei hadran ar wefan AccessAble sy’n cynnwys mynediad gwastad, parcio, toiledau a ffyrdd o dderbyn gwybodaeth a chyfathrebu ar eich ymweliad.

Mae Canolfan Siopa Dewi Sant hefyd yn cynnig loceri Aros a Gadael, i chi ddiogelu eich nwyddau a’ch eiddo arall. Mae’r rhain yn costio £1 ac mae angen eu gwagio cyn i’r ganolfan gau bob nos.

YMWELD Â LLEOLIADAU ERAILL

Mae gan lawer iawn o leoliadau yn y ddinas wybodaeth am hygyrchedd ar eu gwefannau, gan egluro sut maen nhw’n darparu ar gyfer anghenion ymwelwyr a gwesteion – a pha gymorth sydd ar gael.

LLEFYDD DIOGEL I YMWELWYR BREGUS

Mae Caerdydd yn cynnig cynllun ‘Lle Diogel’ i gefnogi ymwelwyr sy’n fwy bregus, neu sydd angen cymorth i ymweld yn annibynnol. Mae sawl lleoliad yng Nghaerdydd wedi ymrwymo i fod yn lle diogel i unrhyw un sy’n teimlo y gallai fod angen hafan ddiogel dros dro arnynt, neu ganllawiau i’w helpu i ymweld yn ddiogel.

Dysgwch am y Lleoedd Diogel ardystiedig yng Nghaerdydd.

Overlay

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.