Beth wyt ti'n edrych am?
Pam ymweld â Llandaf?
Mae Llandaf yn cael ei chydnabod fel un o gymdogaethau mwyaf hanesyddol a hardd Caerdydd. Fel man geni’r awdur plant annwyl Roald Dahl a lleoliad ffilmio ar gyfer Doctor Who, mae’n cynnig cymysgedd unigryw o hanes a diwylliant. Yn gartref i atyniadau gan gynnwys Eglwys Gadeiriol Llandaf, sy’n dyddio’n ôl i 1107, Cwrt Insole, ac olion Palas yr Esgob, mae Llandaf yn lle gwych i’w archwilio. Er ychydig ymhellach i ffwrdd o ganol y ddinas, mae’n werth ymweld â hi.
CIPOLWG AR LLANDAF
| ❓YN ADNABYDDUS AM: Treftadaeth a mannau gwyrdd |
| ✨ AWYRGYLCH: Hanesyddol, heddychlon, croesawgar |
| 🚶➡️ PELLTER O GANOL Y DDINAS: 45-60 munud ar droed |
Dywed Croeso Caerdydd: Wyddech chi y gall grwpiau drefnu taith dywys o amgylch Eglwys Gadeiriol Llandaf am rodd o £5 y pen? Cysylltwch â nhw i archebu.
ATYNIADAU
TAFARNDAI
CHWANT BWYD?
Dyma ddetholiad bach o’r lleoedd i’w harchwilio yn yr ardal. Am fwy o ysbrydoliaeth, edrychwch ar fap Google isod.
SUT I GYRRAEDD LLANDAF
Cerdded: mae’n bosib cerdded i Landaf o Ganol Dinas Caerdydd mewn llai nag awr. Mae’r rhan fwyaf o’r bwytai, y bariau a’r atyniadau i’w gweld wrth i chi gerdded i lawr y Stryd Fawr a Chlos y Gadeirlan.
Beic: reidiwch eich beic i’r gymdogaeth hon, yna ei adael ger Eglwys Gadeiriol Llandaf. Mae rhagor o wybodaeth am feicio ar gael yma, gan gynnwys y llwybrau beicio gorau a chyfleusterau parcio.
Trên: yr orsaf drenau agosaf yw’r Tyllgoed, tua 15 munud ar droed.
Bws: daliwch Fws Caerdydd rhif 24 neu 25 yng Nghyfnewidfa Fysus Bws Caerdydd ger Gât 4 Stadiwm Principality. Gadewch y bws yn safle bysus Rhodfa’r Gorllewin neu’r Black Lion, nid yw Eglwys Gadeiriol Llandaf yn bell iawn wedyn.
Car: mae’r rhan fwyaf o’r mannau parcio yn strydoedd Llandaf wedi’u neilltuo i drigolion. Mae mannau parcio talu ac arddangos ar gael.
HOFFECH CHI GYMERADWYO RHYWLE?
EISIAU CYNNWYS EICH BUSNES?
Rydym wrth ein boddau o weithio gyda lleoliadau newydd. Llenwch ein ffurflen i gael gwybod mwy.