Beth wyt ti'n edrych am?
Ffurflen Gais Bygi Symudedd
Mae’r gwasanaeth bygi symudedd yn helpu pobl i deithio o amgylch canol dinas Caerdydd rhwng dau leoliad a drefnwyd ymlaen.
Oriau Gweithredu:
Llun – Iau: 08:00 tan 16:00
Gwe: 08:00 tan 15:30
Sad – Sul: Ddim ar waith
Cost: AM DDIM
Eisiau gwybod mwy? Mae’r Cwestiynau Cyffredin isod yn cynnwys y cyfan sydd angen ei wybod o ran defnyddio’r gwasanaeth, neu allwch alw 029 2087 3888.
Cwestiynnau Cyffredin
Gall rhai ymwelwyr ei chael hi’n anodd mynd o gwmpas a mwynhau’r profiad siopa a lletygarwch llawn. Felly, mae’r gwasanaeth bygi symudedd rhad ac am ddim hwn ar gael i helpu pobl i deithio o amgylch canol y ddinas rhwng dau leoliad – a gan fod modd i hyd at dri theithiwr ddefnyddio’r cerbyd gall ffrindiau/perthnasau ymuno.
Mae’r bygi symudedd yn teithio o amgylch canol y ddinas, gan gynnwys Stryd y Castell, y Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Heol-y-Frenhines, Yr Aes a’r Orsaf Ganolog. Gall ymwelwyr archebu’r gwasanaeth i deithio rhwng dau leoliad. Er enghraifft, o’r Orsaf Ganolog i Ganolfan Siopa Dewi Sant, neu o siop ar Heol-y-Frenhines i fwyty ar Lôn y Felin.
Gellir archebu’r bygi symudedd ymlaen llaw drwy lenwi’r ffurflen gais isod ac yna bydd aelod o staff yn e-bostio yn ôl i gadarnhau argaeledd ar gyfer y diwrnod rydych wedi ei ddewis. Fel arall, gan eu bod yn gweithredu o Gastell Caerdydd, gallwch ffonio’r tîm bygi ar phone number i archebu. Er mwyn sicrhau argaeledd, mae’n well archebu o leiaf 1 diwrnod gwaith ymlaen llaw.
Yn anffodus nid yw’r gwasanaeth yn hygyrch i gadeiriau olwyn.
Pan fydd yr archeb yn cael ei chadarnhau, anfonir e-bost cadarnhau yn nodi manylion yr amser a ddewiswyd, y man codi a gollwng. Pan fyddwch yn cyrraedd, bydd y gyrrwr yn aros amdanoch – felly dangoswch eich e-bost cadarnhau a mwynhewch y daith drwy ganol y ddinas.
Beth os nad oes gennyf gyfeiriad e-bost? Dim problem! Gallwch dderbyn neges destun gyda’r wybodaeth – rhowch y rhif ffôn symudol gorau pan fyddwch yn archebu.
Pan fyddwch yn derbyn cadarnhad o’ch archeb, bydd yn nodi rhif ffôn symudol eich gyrrwr dynodedig. Felly, os bydd eich cynlluniau’n newid ar y funud olaf a bod angen i chi ganslo, neu os ydych ychydig yn hwyr, rhowch alwad i’r gyrrwr i newid yr archeb.
Efallai y bydd adegau pan fydd y gyrrwr ychydig ar ei hôl hi, neu efallai y bydd y bygi wedi’i barcio mewn lleoliad ychydig yn wahanol i’r man codi y cytunwyd arno. Yn yr achosion hynny, mae’n bosibl y bydd y gyrrwr yn rhoi galwad i chi ar y rhif ffôn symudol a nodoch wrth archebu – neu gallwch ffonio’r gyrrwr gan ddefnyddio’r rhif ar yr e-bost cadarnhau.
Er mwyn sicrhau y gall y cynllun wasanaethu cynifer o bobl â phosibl, fe’ch cynghorir i archebu ymlaen llaw. Fodd bynnag, yn ystod cyfnodau tawelach bydd y bygi wedi’i barcio yng Nghastell Caerdydd, felly os ydych yn agos at yr ardal honno ac yn gweld y gyrrwr gallwch ofyn a oes unrhyw argaeledd.
Cyngor Caerdydd sy’n rheoli’r gwasanaeth bygi symudedd ac mae’n gweithredu o Gastell Caerdydd.
I holi am ddefnyddio Bygi Symudedd Caerdydd, llenwch y ffurflen isod a bydd un o’n staff mewn cysylltiad i gadarnhau argaeledd a chwblhau eich archeb.
Darllenwch cyn cyflwyno'ch cais:
- Mae Cymorth Symudedd Canol y Ddinas yn gynllun cerbydau trydan i’r rhai sydd angen help i gael mynediad i ganol y ddinas.
- Gall y cerbydau gario hyd at dri pherson neu ddau berson gyda chi tywys.
- Dim ond ar gyfer y rhai y mae angen cymorth symudedd arnynt y dylid defnyddio’r gwasanaeth symudedd.
- Mae gan yrrwr y bygi symudedd yr hawl i wrthod taith oherwydd ymddygiad annerbyniol neu os credir nad oes angen cymorth symudedd ar y teithiwr.
- Ni chaniateir yfed na bwyta pan fydd teithiwr yn defnyddio’r gwasanaeth symudedd.
- Mae’r gwasanaeth hwn am ddim ac felly nid oes angen talu.
- Mae’r gwasanaethau cymorth symudedd yn gweithredu yng nghanol y ddinas gan deithio rhwng dau bwynt gollwng yn unig ac nid yw’n gweithredu y tu allan i ardaloedd siopa canol y ddinas.
- Mae’r cerbyd cymorth symudedd yn gweithredu rhwng 09:00 a 17:00 ar ddiwrnodau’r wythnos yn unig.
- Gofynnir i deithwyr fod yn barchus i’r gweithredwr bygi symudedd bob amser.