Beth wyt ti'n edrych am?
MAE GAN GAERDYDD GYSYLLTIADAU TRAFNIDIAETH CRYF, FELLY NI ALLAI FOD YN HAWS TEITHIO YMA.
Mae Caerdydd yn ddinas hawdd ei chyrraedd. Gyda chymaint o ffyrdd o deithio yma, does dim esgus i beidio ag ymweld â ni. Mae gan Gaerdydd ei maes awyr ei hun; cysylltiadau rheilffordd cyflym o Lundain; mae traffordd yr M4 yn mynd heibio gogledd y ddinas; a gallwch hyd yn oed ei chyrraedd ar long! Byddem wrth ein bodd yn eich croesawu, felly pam oedi?
Os oes angen cyngor arnoch ar deithio o gwmpas Caerdydd, parcio eich car, neu unrhyw beth arall ewch i’n tudalen gwybodaeth i ymwelwyr .
BLE MAE CAERDYDD?

Caerdydd yw prifddinas Cymru ac mae wedi’i lleoli ar arfordir deheuol Cymru. Mae Cymru yn un o bedair gwlad o fewn Teyrnas Unedig Prydain Fawr, ynghyd â’r Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Yn fwy penodol, lleolir Caerdydd o fewn sir hanesyddol Morgannwg ar Fôr Hafren, wrth aber Afon Taf, tua 150 milltir (240 km) i’r gorllewin o Lundain.
TEITHIO I GAERDYDD MEWN AWYREN

Mae Maes Awyr Caerdydd yn cynnig hediadau uniongyrchol i ddinasoedd gan gynnwys Caeredin, Belfast, Dulyn, Paris, Amsterdam, München, Genefa, Barcelona, Milan, Fenis a Rhufain, yn ogystal â llwybrau cysylltiol â mwy na 900 o gyrchfannau ledled y byd.
Mae’r Maes Awyr ym Mro Morgannwg, 13 milltir i’r gorllewin o Gaerdydd. Gall cwsmeriaid deithio i’r maes awyr ac oddi yno’n rhwydd drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, sy’n rhedeg yn rheolaidd ac yn aml.
TEITHIO I GAERDYDD AR DRÊN

Mae Caerdydd yn llai na dwy awr o Lundain ar y trên, gyda gwasanaethau bob 30 munud. Mae gan Gaerdydd hefyd lwybrau uniongyrchol i Fryste, Caerfaddon, Birmingham, Manceinion, Nottingham, a phrif drefi a dinasoedd eraill. Mae Gorsaf Caerdydd Canolog wedi’i lleoli’n gyfleus yng nghanol y ddinas, yn agos at lawer o westai ac atyniadau ardderchog fel y Stadiwm Principality a Chastell Caerdydd.
I gael gwybodaeth am drenau yng Nghymru ewch i Trafnidiaeth Cymru; I Gaerdydd o Lundain, Bryste, Caerfaddon, Southampton, Portsmouth, Caerwysg ewch i Reilffordd y Great Western; ac i Gaerdydd o bob rhan o’r DU: National Rail
TEITHIO I GAERDYDD MEWN CAR

Mae’n hawdd cyrraedd Caerdydd ar hyd traffordd yr M4, sy’n rhedeg drwy ogledd y ddinas gyda chanol Llundain ond 3 awr i ffwrdd. O Ganolbarth Lloegr, Gogledd Lloegr a’r Alban mae’n daith syml ar hyd yr M6, yr M5 a’r M50/M4. O Dde a De-orllewin Lloegr mae’r daith ar hyd yr M5 a’r M4. Mae mynediad o Orllewin Cymru ar hyd yr M4.
Gallwch hefyd ddod o hyd i lawer o feysydd parcio cyfleus yng nghanol y ddinas, y Bae Caerdydd ac ardaloedd cyfagos.
TEITHIO I GAERDYDD MEWN LLONG

Oeddech chi’n gwybod y gallwch hwylio i Gaerdydd? Awdurdod Harbwr Caerdydd sy’n gyfrifol am weithredu Morglawdd Bae Caerdydd. I gael yr holl wybodaeth am fynediad a mordwyo ewch i wefan Awdurdod Harbwr Caerdydd. Mae angorfeydd tymor byr ym Mae Caerdydd ac angorfeydd ar gael ym Mhenarth sydd gerllaw.
Os ydych yn cyrraedd y DU ar fferi yn Portsmouth neu Southampton, mae cysylltiadau trên uniongyrchol o’r dinasoedd porthladd hyn i Gaerdydd. Mae porthladdoedd y fferi hefyd yn cysylltu â’r system draffyrdd genedlaethol i ddarparu mynediad cyflym i Gaerdydd. Gallwch hefyd deithio ar fferi o Rosslare yn Iwerddon i abergwaun neu Benfro yng Ngorllewin Cymru. Yna mae’r porthladdoedd hyn yn cysylltu â Chaerdydd ar drên a ffordd.