Neidio i'r prif gynnwys

HELO A CHROESO I GAERDYDD!

P'un a ydi eich lle wedi'i gadarnhau, neu os ydych chi'n dal i ystyried ble fydd eich cam nesaf, mae Caerdydd yn brifddinas glyd, byrlymus sy'n croesawu cymuned fawr o fyfyrwyr sylfaen, israddedig, ôl-raddedig a doethuriaeth. Mae llawer yn digwydd yng Nghaerdydd ond mae’n ddinas gryno, sy’n hawdd mynd o’i chwmpas a theimlo'n gartrefol ynddi.

PRIFYSGOLION A CHOLEGAU

Mae Caerdydd yn falch o fod yn gartref i 6 o brifysgolion, conservatoires a cholegau o fri, gyda’i gilydd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, campysau a phrofiadau – dewch o hyd i’r bywyd myfyriwr i chi yng Nghaerdydd.

Prifysgol Caerdydd

Mae prifysgol fwyaf Cymru ymhlith y 200 uchaf yn y byd, yn ôl cynghrair y QS World University Rankings (2022).

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Mae 'Met Caerdydd' yn safle #7 yn 100 uchaf Uni Compare 2021.

Prifysgol De Cymru

Mae gan ail brifysgol fwyaf Cymru adeilad pwrpasol yng nghanol Caerdydd.

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Un o'r Conservatoires mwyaf adnabyddus ac uchel ei fri yn y DU.

Coleg Caerdydd a’r Fro

Gyda phum campws ar draws y ddinas, gan gynnwys y campws canolog blaenllaw newydd gwerth £45m.

Prifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant

Y Drindod sy’n rhedeg Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru o'u canolfan addysgu yng Nghaerdydd.

Y LLEOEDD GORAU I ASTUDIO YNG NGHAERDYDD

Mae dewis yr amgylchedd astudio cywir yn hanfodol ar gyfer llwyddiant academaidd a lles personol, ac mae Caerdydd, sy’n ddinas fywiog ac amrywiol, yn cynnig amrywiaeth o leoedd astudio sy’n addas ar gyfer gwahanol ddewisiadau ac anghenion.

Gostyngiadau Aelodau i Fyfyrwyr Caerdydd

Mae bywyd myfyriwr yng Nghaerdydd wedi ddod yn haws ac yn fwy fforddiadwy! P'un a ydych chi'n bwyta allan, yn mynd i'r bariau, neu'n archwilio atyniadau lleol, mae llawer o ddisgowntiau i fyfyrwyr i'ch helpu i ymestyn eich cyllideb ymhellach.

Dewch i adnabod eich cyd-letywyr a’ch dinas newydd drwy roi cynnig ar rai gweithgareddau gyda’ch gilydd.

PETHAU I’W GWNEUD AM DDIM YNG NGHAERDYDD: CANLLAW I FYFYRWYR AR HWYL FFORDDIADWY

Mae Caerdydd yn fwy na phrifddinas yn unig; mae’n fan poblogaidd i fyfyrwyr sydd am archwilio, dysgu a mwynhau heb wario llawer. Os ydych yn astudio yng Nghaerdydd neu ddim ond yn ymweld â hi, fe welwch fod y ddinas hon yn rhyfeddol o dda i’ch waled.

NOSWEITHIAU MYFYRWYR YNG NGHAERDYDD

Mae Caerdydd, dinas fywiog sy’n adnabyddus am ei sîn fywiog i fyfyrwyr, yn cynnig amrywiaeth o nosweithiau cyffrous i fyfyrwyr ar gyfer gwahanol chwaethau a dewisiadau.

BLE I FYW FEL MYFYRIWR YNG NGHAERDYDD?

Mae Caerdydd, dinas sy’n adnabyddus am ei hamrywiaeth ddiwylliannol a’i bywiogrwydd academaidd, yn cynnig amrywiaeth eang o opsiynau byw i fyfyrwyr i fodloni gwahanol anghenion a dewisiadau.

ALLWEDDI I'R CASTELL

Unwaith y byddwch yn gwneud Caerdydd yn gartref am yr ychydig flynyddoedd nesaf, gallwch gael allwedd Castell, sy'n rhoi mynediad diderfyn i chi i Gastell Caerdydd am ddim ond £7 am dair blynedd. Mynnwch eich un chi o swyddfa docynnau'r Castell, dim ond cyflwynwch brawf o breswyliad yng Nghaerdydd.

THE LATEST FROM @VISITCARDIFF

CADWCH MEWN CYSYLLTIAD

Cofrestrwch ar gyfer e-Gylchlythyr Croeso Caerdydd heddiw i gael newyddion cyffrous, digwyddiadau, cynigion arbennig, pethau i’w gwneud a mwy gan dîm Croeso Caerdydd.