Neidio i'r prif gynnwys

AMSERLEN: DIWRNOD O ANTUR

Os ydych chi’n chwilio am ddiwrnod llawn gweithgareddau sy’n siŵr o fod wrth fodd oedolion a phlant, rydych chi yn y lle iawn!

STOP UN: CANOLFAN DŴR GWYN RYNGWLADOL CAERDYDD

Dechreuwch eich diwrnod gyda sblash ac antur yn Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd (DGRhC).  Dim ond 10 munud o ganol y Ddinas mewn car, mae DGRhC yn gyfleuster antur cyffrous ar alw yng nghanol y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol. Cewch fwynhau amrywiaeth o weithgareddau hamdden cyffrous ar gyfer anturwyr o bob oed.

Mae gan ganolfan DGRhC lwyth o weithgareddau ar gynnig, felly pa weithgaredd dŵr bynnag rydych chi’n chwilio amdano, mae’n siŵr o fod ar gael! Gwych ar gyfer adeiladu tîm neu grwpiau bach.  Mae’n ffordd wych o dreulio ychydig oriau a mwynhau’r caffi sydd ar y safle.

Prisiau o £10 ar gyfer Antur Awyr neu Diwbio Dŵr Gwyn i’r Teulu o £25. Prynwch eich tocynnau yma

EGWYL: COFFI CO

Rhaid cael egwyl i atgyfnerthu! Ewch draw i Coffi Co, sydd ychydig gamau i ffwrdd ar Rhodfa’r Harbwr, i fwynhau diod o blith dros 40 o ddiodydd cartref creadigol a phryd wedi’i baratoi’n ffres. Mae pob Coffi Co mewn lleoliad heddychlon, yn edrych dros y dŵr, lle gallwch eistedd yn ôl, ymlacio a gwylio’r byd yn mynd heibio cyn mynd i’ch atyniad nesaf.

STOP TRI: CANOLFAN DDRINGO DAN DO BOULDERS

Mwy o antur, ond yn glyd dan do y tro hwn! Lai na 5 munud o ganol y ddinas, ewch draw i Heol Casnewydd ac fe ddewch o hyd i Ganolfan Ddringo Boulders yng Nghaerdydd.  Man lle gall cymuned ddringo gyfeillgar a chynhwysol ffynnu.  Maent yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar bob dringwr i gyflawni ei  nodau dringo.

Perffaith ar gyfer pob dringwr o ddechreuwyr i ganolradd. Yn gallu darparu ar gyfer sesiynau grŵp neu unigol. Sesiynau unigol o £18 am 80 munud o hyfforddiant. Maen nhw hefyd yn gweini coffi gwych, efallai y bydd angen paned  arnoch chi ar ôl yr holl ddringo!

EGWYL OLAF: CINIO YN THE BOTANIST

I barhau â’r antur, ewch i Heol yr Eglwys yng Nghanol y Ddinas lle dewch o hyd i The Botanist, bum munud ar drafnidiaeth gyhoeddus neu 15 munud ar droed (os ydych chi’n dal i deimlo’n egnïol). Byddwch yn cerdded drwy’r jyngl o blanhigion o bob math i gyrraedd eich bwrdd, lle gallwch ymlacio o’r diwedd.

Mae gan y Botanist fwydlen coctel ardderchog ynghyd â phrydau arbennig a bwydlen Bombay Sapphire. Cadwch eich bwrdd yma