Neidio i'r prif gynnwys

Arweinydd Caerdydd yn croesawu penderfyniad UEFA ynghylch EWRO 2028

Dydd Mawrth 10 Hydref 2023 · Cyngor Caerdydd


 

Mae Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, wedi croesawu’r newyddion heddiw y bydd Cymru’n cynnal gemau mewn rowndiau terfynol twrnamaint pêl-droed rhyngwladol mawr am y tro cyntaf.

Mewn seremoni yn y Swistir heddiw, cyhoeddodd UEFA fod cais y DU ac Iwerddon i gynnal Pencampwriaeth Ewrop UEFA 2028 wedi bod yn llwyddiannus.

Mae Cymru eisoes wedi cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr, gan gynnwys Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn 2017, bocsio, Gemau Olympaidd Llundain 2012 a rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd.   EWRO 2028 fydd y tro cyntaf i Gymru gynnal gemau mewn rowndiau terfynol twrnamaint pêl-droed rhyngwladol mawr i dimau dynion.

Dywedodd y Cynghorydd Thomas: “Mae hyn yn newyddion gwych i Gaerdydd ac i Gymru ac allwn ni ddim aros i groesawu’r cefnogwyr – y bydd llawer yn dod yma am y tro cyntaf. Mae’n gyfle gwych arall i atgoffa’r byd pa mor arbennig yw Caerdydd o ran cynnal digwyddiadau mawr.  Gall ymwelwyr ddisgwyl awyrgylch unigryw, dinas gynnes a chroesawgar, a phobl angerddol gyda chariad gwirioneddol at y gêm. Beth allai fod yn well na’r gêm hardd, mewn awyrgylch hardd, yn ein dinas hardd?  Alla i ddim aros.”

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:  “Mae Cymru wedi adeiladu enw da yn fyd-eang am gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr yn llwyddiannus, tra bod tîm y dynion wedi cyrraedd rowndiau terfynol tri thwrnament pêl-droed mawr ers 2016.

“Mae pêl-droed wrth wraidd ein huchelgeisiau chwaraeon – o gynnal Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn 2017 i’r balchder o weld Cymru’n cyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd FIFA am y tro cyntaf ers dros 60 mlynedd. Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth ddigynsail i gêm y merched ac yn buddsoddi mewn pêl-droed llawr gwlad a phêl-droed ieuenctid ledled Cymru.

“Y newyddion heddiw yw ein cyfle cyffrous nesaf i arddangos yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig.  Mae gennym hanes cryf o weithio mewn partneriaeth â phartneriaid allweddol, gan gynnwys Cyngor Caerdydd a’r stadiwm, i gynnal y digwyddiadau, y gall cefnogwyr o bob rhan o Gymru eu mwynhau.

“Mae sicrhau EWRO 2028 yn garreg filltir arall i chwaraeon Cymru ac rwy’n hyderus y bydd y DU ac Iwerddon yn cynnal yr EWRO UEFA gorau erioed.”

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden:  “Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, y stadiwm a’n partneriaid cenedlaethol yn y DU ac Iwerddon i gynnal dathliad angerddol a bythgofiadwy, a fydd yn ddiogel, yn groesawgar ac wedi’i drefnu’n dda.  Bydd Pencampwriaeth Ewrop UEFA 2028 yn ŵyl bêl-droed drawiadol a chynaliadwy – i’r chwaraewyr, i’r cefnogwyr a holl Deulu UEFA.

“Bydd y manteision economaidd o gynnal digwyddiad mor uchel ei broffil yn sylweddol – a bydd hefyd yn rhoi llwyfan ardderchog i ni godi proffil Cymru ar lwyfan y byd gan ein cysylltu â brand gwirioneddol fyd-eang.  Rhoddodd y cyfleoedd a gawsom fel rhan o Gwpan y Byd y llynedd lwyfan i ni gyflawni ymgyrch hyrwyddo glodwiw i Gymru.

“Bydd y cyfle ysbrydoledig hwn hefyd yn cael ei ddefnyddio i annog cyfranogiad, yn enwedig ymhlith merched a menywod, a byddwn hefyd yn defnyddio pêl-droed i hyrwyddo a chefnogi mentrau i fynd i’r afael â chynhwysiant cymdeithasol – a fydd yn etifeddiaeth barhaol ar gyfer Pencampwriaeth Ewrop UEFA 2028.”

Bydd Stadiwm Principality yn cael ei ailenwi’n Stadiwm Cenedlaethol Cymru ar gyfer y twrnamaint hwn.

“Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru a chwaraeon Cymru,” dywedodd Prif Swyddog Gweithredol dros dro Grŵp Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker. “Rydym yn llawn cyffro i chwarae ein rhan i greu EWRO 2028 UEFA rhagorol, gan weithio ochr yn ochr â’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd, Cymdeithas Bêl-droed Cymru ynghyd â gweddill y DU ac Iwerddon.

“Rydym wedi cynnal digwyddiadau pêl-droed byd-eang hynod arwyddocaol yn ein stadiwm o’r blaen, o gemau rhyngwladol Cymru i Rowndiau Terfynol Cwpan FA Lloegr, gemau pêl-droed y Gemau Olympaidd a Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA 2017.  Gallwn gynnig profiad bendigedig i wylwyr, cae chwarae sy’n addas ar gyfer y dalent fyd-eang orau a tho y gellir ei gau, i gyd mewn lleoliad deniadol yng nghanol y ddinas gyda’r holl fuddion y mae’r brifddinas yn eu cynnig.

“Rydym eisoes yn ymwybodol o’r effaith eithriadol o gadarnhaol y mae cynnal digwyddiadau chwaraeon mawr yn y stadiwm yn ei chael ar Gaerdydd a’r cyffiniau.  Ni fydd EWRO 2028 UEFA yn wahanol, a byddwn yn barod i groesawu cefnogwyr pêl-droed o bob cwr o’r byd ar gyfer un o sioeau chwaraeon mwya’r byd.”