Neidio i'r prif gynnwys

Darganfyddwch eich Robinson Crusoe mewnol gydag ymweliad ag Ynys Echni

17/05/2024

____________________________________________________________

Os cawsoch yr awydd erioed i grwydro ynys hardd, mynd nôl i fyd natur a ‘darganfod eich Robinson Crusoe mewnol’ mae cyfle gennych nawr – a hynny gwta bum milltir oddi ar lannau Caerdydd.

Gall Ynys Echni, yr em emrallt fach ym Môr Hafren, ymddangos yn ddigon agos i gyffwrdd â hi ar ddiwrnod heulog a chlir ac mae ei hapêl wedi bod yn denu ymsefydlwyr i’w glannau am 2,000 o flynyddoedd a rhagor. Ers yr Oes Efydd mae wedi denu amrywiaeth liwgar o ffermwyr, arloeswyr, milwyr a gwyddonwyr, pob un wedi eu denu gan ei rhinweddau unigryw.

Nawr, mae Cyngor Caerdydd – sy’n berchen ar yr ynys – yn eich gwahodd i ymuno â’r rhai hynny sydd wedi archwilio a mwynhau’r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Gwarchodfa Natur Leol. Gyda chymorth yr arbenigwyr bywyd gwyllt a’r wardeiniaid sy’n cynnal Ynys Echni, mae’r Cyngor wedi cyhoeddi tymor o ddigwyddiadau dydd ac arosiadau preswyl byr i unigolion a grwpiau.

Wedi’i ddisgrifio fel “profiad unigryw a gwerth chweil os ydych yn barod am her ac antur bywyd ar ynys fach, anghysbell”, mae’r ymweliadau’n cynnwys llety hostel mewn ffermdy wedi’i drosi a chyfle i ddysgu sgiliau newydd, creu atgofion arbennig a meithrin cyfeillgarwch parhaol.

Yn ôl Jennifer Burke, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ddiwylliant, Parciau, Digwyddiadau a Lleoliadau, mae Ynys Echni yn un o’r tlysau llai adnabyddus ymhlith mannau gwyrdd Caerdydd. “Mae’n lle mor hardd a hanesyddol,” meddai. “Fel gwarchodfa natur, mae’n rhaid i ni ei gwarchod ond rwy’n falch iawn y gallwn ei hagor mewn modd cyfyngedig drwy’r ymweliadau diwylliannol a lles hyn.”

Mae ymweliadau, sy’n costio rhwng £100 a £260, yn cynnwys cludiant cwch nôl a blaen, llety a hyfforddiant. Y rhaglen eleni yw:

  • Anturiaethau ysgrifennu creadigol (Awst 23-25) Cyfle i ddatblygu eich sgiliau ysgrifennu dan arweiniad yr artist a’r awdur Sarah Featherstone
  • Awyr a heli – gweithdy celf (Gorffennaf 5-7) Cwrs sy’n addas i bawb sy’n frwdfrydig am gelf a natur – ac addas i bob gallu – gan gynnwys ymgais i weld Ynys Echni drwy lygaid aderyn
  • Brychau haul, machlud haul a syllu ar y sêr (Gorffennaf 13-14) Ymhell o lygredd golau Caerdydd, mae Ynys Echni yn cynnig cyfle i weld awyr y nos yn ei holl ogoniant, gan gynnwys y Llwybr Llaethog, gyda chymorth telesgopau arbennig a ddarperir gan Gymdeithas Seryddol Caerdydd.
  • Penwythnos haf sgiliau ffotograffiaeth (Awst 2-4; Hydref 4-6) Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddefnyddio amrywiaeth o wahanol osodiadau a nodweddion camera i gael y gorau o’ch ffotograffiaeth.
  • Profiad gwirfoddolwyr cadwraeth (Awst 26-30) Cyfle i brofi byw a gweithio ar ynys a gwyliau ‘gwahanol’ lle gallwch roi rhywbeth yn ôl i fyd natur, gan gynnwys cyflawni tasgau cadwraeth hanfodol a helpu i adfer a chynnal adeiladau treftadaeth
  • Adfer, ymlacio a chysylltu – encil llesiant (Awst 30-Medi 1; Medi 6-8) Cymerwch hoe o’ch dyddiau llawn prysurdeb ac ailwefru eich batris trwy weithgareddau gan gynnwys ioga, Qigong a dawnsio Rhyddid

Am fwy o wybodaeth, ewch i https://www.cardiffharbour.com/cy/ynys-echni/digwyddiadau-ynysechni/

Ffeil Ffeithiau Ynys Echni

  • Er ei bod ond ychydig dros ddegfed rhan o filltir sgwâr o ran ei maint, mae gan Ynys Echni hanes mawr. Bu pobl yn byw yno gyntaf yn ystod yr Oes Efydd (900-700CC) ac yn y 5ed -6 ed Ganrif OC roedd yn encil i Catwg Sant a fu’n feudwy ar yr ynys.
  • Mae ganddi gysylltiadau â’r Eingl-Sacsoniaid a’r Llychlynwyr, ac ym 1542 rhoddodd Harri’r VIII brydles i Edmund Tournor i ffermio ar yr ynys
  • Yn y 18fed Ganrif roedd yn safle delfrydol i smyglo
  • Er gwaethaf y goleudy a godwyd ym 1737, mae wedi bod yn dyst i nifer o longddrylliadau. Ym 1817, suddodd y slŵp Brydeinig William and Mary ar ôl taro’r creigiau oddi ar Ynys Echni pan gollwyd 54 o deithwyr – 50 ohonynt wedi’u claddu ar yr ynys.
  • Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, rhoddwyd 350 o filwyr y Magnelwyr Brenhinol ar yr ynys i amddiffyn llyngesau gosgordd rhwng Caerdydd, y Barri ac Ynys Echni.
  • Yn 2008, ym mhennod ‘Adrift’ chwaer-gynhyrchiad Dr Who y BBC, sef Torchwood, cafodd yr ynys ei chynnwys fel cartref i gyfleuster meddygol cyfrinachol.
  • Ar hyn o bryd mae’r ynys yn cael ei rheoli gan Gyngor Caerdydd, ac yn cael ei chefnogi gan Brosiect Ynys Echni, sy’n elusen gofrestredi