Gwobr Iris wedi’i chydnabod yn rhestr nodedig Cylchgrawn MovieMaker o 50 ‘gŵyl sy’n werth y ffi mynediad’

Dydd Mercher, 27 Mai 2026


 

  • Cydnabyddiaeth i Wobr Iris gan Gylchgrawn MovieMaker am y chweched tro, gan dynnu sylw at ei dull cyson o roi’r ffilmwyr yn gyntaf a’i enw da rhyngwladol cryf
  • Mae Cylchgrawn MovieMaker yn un o gylchgronau ffilm annibynnol mwyaf poblogaidd y byd
  • Mae rhestr flynyddol y 50 Uchaf yn arwydd o ba mor ddefnyddiol yw gŵyl ffilm i wneuthurwyr ffilmiau
  • Maer gydnabyddiaeth hon gan MovieMaker, cylchgrawn uchel ei barch, yn cadarnhau ein bod nin ffrind da i wneuthurwyr ffilmiau, ac ni fyddwn ni byth yn eu cymryd yn ganiataol.” Berwyn Rowlands
  • Mae Gwobr Iris yn dathlu 20 mlynedd o adrodd straeon byd-eang yn 2026 yng ngŵyl ffilm LHDTQ+ Caerdydd ym mis Hydref

Mae trefnwyr Gŵyl Ffilm LHDTQ+ Gwobr Iris sy’n dathlu straeon byd-eang a swyn Caerdydd – yn hynod falch ac yn gyffrous i gyhoeddi, am y chweched tro, fod yr ŵyl gymhwyso BAFTA a BIFA ar gyfer ffilmiau byrion Prydeinig wedi’i chydnabod gan Gylchgrawn MovieMaker fel un o’r ’50 Gŵyl sy’n Werth y Ffi Mynediad yn 2026′.

Cyhoeddwyd yr anrhydedd fawreddog hon ar 26 Mai gan Gylchgrawn MovieMaker, cyhoeddiad blaenllaw yn yr Unol Daleithiau sy’n canolbwyntio ar gelfyddyd a busnes gwneud ffilmiau annibynnol, a ddarllenir yn bennaf gan wneuthurwyr ffilmiau, rhaglenwyr gwyliau, addysgwyr ffilm a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant. Mae ganddo ddarllenwyr targedig iawn gyda dosbarthiad print a digidol wedi’i ganoli yng Ngogledd America ac Ewrop.

Mae rhestr flynyddol Cylchgrawn MovieMaker, ’50 Festivals Worth the Entry Fee’, yn cael ei hystyried yn eang fel arwydd o ymddiriedaeth gwneuthurwyr ffilmiau, gan amlygu gwyliau sy’n cynnig gwerth gwirioneddol yn hytrach na bri yn unig. Dewisir gwyliau trwy ddata, adborth gan wneuthurwyr ffilmiau ac ymchwil olygyddol, gan flaenoriaethu ymgysylltiad y gynulleidfa, rhwydweithio ystyrlon, mynediad i’r diwydiant, cyflwyniad o safon, a chyfleoedd cyflwyno teg.

Dywedodd Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Gwobr Iris: “Mae ymateb gwneuthurwyr ffilmiau bob amser wedi bod yn ganmoladwy ac yn garedig gyda llawer, yn enwedig y rhai sy’n mynychu’r ŵyl yng Nghaerdydd, gan wneud sylwadau eu bod yn teimlo eu bod yn cael gofal gan Iris, fel bod yn aelod o deulu estynedig. Felly, mae’n debyg bod gennym ni deimlad ein bod ni’n gwneud rhai pethau’n iawn. Mae’r gydnabyddiaeth hon gan MovieMaker, cylchgrawn uchel ei barch, yn cadarnhau ein bod ni’n ffrind da i wneuthurwyr ffilmiau, ac ni fyddwn ni byth yn eu cymryd yn ganiataol.”

Dywedodd Tim Molloy, Golygydd Cylchgrawn MovieMaker: “Llongyfarchiadau i Wobr Iris ar 20 mlynedd o gefnogi gwneuthurwyr ffilmiau LHDTQ+ a rhoi miloedd o ffilmiau i gynulleidfaoedd eu dathlu. Ei gwaddol yw gwneud i bobl deimlo’n gryfach, yn llai unig, ac yn fwy agored i empathi a dewrder. Mae’n ymhelaethu ar gelfyddyd, ie, ond mae hefyd yn helpu artistiaid i wneud y cysylltiadau busnes a all ehangu eu gweledigaeth cyn belled â phosibl.”

Dathlwch Gyda Ni – Pas Penwythnos Nawr 30% o ostyngiad
I nodi’r newyddion gwych hwn, rydym hefyd yn ei gwneud hi’n haws ymuno â ni yng Nghaerdydd. Am gyfnod cyfyngedig, mae ein Pas Penwythnos bellach ar gael gyda 30% o ostyngiad — yr esgus perffaith i fod yn rhan o’r flwyddyn ben-blwydd arbennig hon.

Mwynhewch fynediad i bob dangosiad ffilm, digwyddiad, ac eiliadau gŵyl unigryw dros y penwythnos. Dewch o hyd i’r manteision llawn a bwciwch eich tocyn yma: https://irisprize2026.eventive.org/passes/buy

Mae manylion llawn am Iris i’w cael yma: www.irisprize.org 

Bydd Gwobr Iris yn dychwelyd yn 2026 am yr 20fed rhifyn ddydd Llun 12 Hydref tan ddydd Sul 18 Hydref.  Mae’r wyl yn derbyn ceisiadau ar gyfer y gwobrau nawr.

Prif noddwyr yr ŵyl yw: Sefydliad Michael Bishop; Cymru Greadigol, un o asiantaethau Llywodraeth Cymru sy’n cefnogi’r sectorau creadigol yng Nghymru; y BFI sy’n dyfarnu arian gan y Loteri Genedlaethol; Ffilm Cymru Wales; Film4, Prifysgol De Cymru; Co-op Respect; Ymddiried – Media Grants Cymru; Bad Wolf; S4C; Grŵp Gorilla; Pinewood Studios; Cylchgrawn Attitude; Cylchgrawn Diva; Movie Marker; The Ministry Venues; Trafnidiaeth Cymru; a Plaza’r Stadiwm. Mae’r ŵyl hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â BAFTA Cymru a Pride Cymru.