Cei'r Fôr-Forwyn yn cyhoeddi rhaglen les am ddim ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2026

Dydd Mercher, 13 Mai 2026


 

Mae Cei’r Fôr-Forwyn, prif gyrchfan bwyta a hamdden Bae Caerdydd, yn falch o gefnogi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2026 gyda chyfres o weithgareddau am ddim sydd wedi’u cynllunio i helpu ymwelwyr i ymlacio, ailgysylltu a chymryd camau cadarnhaol ar gyfer lles.

Mae thema eleni, “Gweithredwch – dros eich hun, neu dros rywun arall,” yn annog camau syml, ystyrlon sy’n cefnogi iechyd meddwl.

Yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 12 Mai a dydd Iau 14 Mai, bydd Cei’r Fôr-Forwyn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau sy’n canolbwyntio ar les gyda Bae Caerdydd yn gefnlen, gan annog tawelwch, cysylltiad ac amser yn yr awyr agored.

Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad y llynedd, bydd Jen o Vibes Yoga & Pilates Bar yn dychwelyd i gyflwyno sesiynau ioga awyr agored am ddim ddydd Mawrth 12 Mai. Cynhelir y sesiynau ar lwybr pren Cei’r Fôr-Forwyn sy’n edrych dros y dŵr rhwng 10:00 ac 11:00 ac maent yn addas i bobl o bob oedran a gallu, gan gynnig dechrau heddychlon a thawel i’r bore.

Anogir cyfranogwyr i gadw lle ymlaen llaw trwy https://www.vibesyogabar.com i sicrhau lle.

Ddydd Iau 14 Mai, bydd Danielle o Dakota Therapies yn dychwelyd hefyd i gynnig tylino bach am ddim yn Sgwâr Tacoma. Bydd y sesiynau’n rhedeg o 12:00 tan 14:00 a byddant ar gael i’r cyntaf i’r felin, heb fod angen archebu ymlaen llaw.

Gyda’i gilydd, mae’r gweithgareddau yn adlewyrchu pedwar o’r camau gweithredu a argymhellir ar gyfer cefnogi lles meddyliol: cysylltu â natur, cynllunio rhywbeth i edrych ymlaen ato, ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar, a chadw’n gorfforol egnïol.

Dywedodd Mark Lemon, Rheolwr Canolfan Cei’r Fôr-Forwyn: “Mae’r thema Gweithredwch ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni yn nodyn atgoffa pwerus nad yw lles bob amser yn dod o newidiadau mawr – mae’n dechrau gyda gweithredoedd bach, bob dydd.

“Yng Nghei’r Fôr-Forwyn, rydyn ni eisiau creu eiliadau sy’n helpu pobl i arafu, cysylltu ac anadlu, boed drostyn nhw eu hunain neu dros rywun arall a allai fod ei angen.

“Rydyn ni’n gobeithio bod y rhaglen hon yn cynnig yr union le hwnnw dros yr wythnos.”

Hysbysir ymwelwyr hefyd fod gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i drawsnewid maes parcio aml-lawr Cei’r Fôr-Forwyn yn gyfleuster mwy golau, mwy modern a hawdd ei ddefnyddio.

Bydd yr adnewyddiad yn cynnwys gwell goleuadau, gwell arwyddion, addurno ffres, gwell mesurau diogelwch, a gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd y maes parcio ar gau, ac anogir ymwelwyr i ddefnyddio dewisiadau amgen cyfagos, gan gynnwys Q-Park Bae Caerdydd a maes parcio Stryd Havannah.

Ewch i wefan Cei’r Fôr-Forwyn neu dilynwch @mermaidquay ar y cyfryngau cymdeithasol am fwy o fanylion.