Beth wyt ti'n edrych am?
Grand Départ GB yn lansio ymgyrch recriwtio genedlaethol i ddod o hyd i wirfoddolwyr ar gyfer Tour de France
Dydd Llun, 1 Mehefin 2026
- Galwad am 9,000 o wirfoddolwyr, a elwir yn JOY Makers, i fod yn guriad calon y Tour de France hanesyddol a’r Tour de France Femmes avec Zwift Grands Départs yn haf 2027
- Mae angen gwirfoddolwyr ar draws y chwe chymal ar gyfer cyfle unwaith mewn oes i chwarae rhan greiddiol yn nigwyddiad chwaraeon blynyddol mwyaf y byd pan ddaw i Brydain
- Mae’r porth ymgeisio bellach ar agor hyd at 1 Medi 2026
Mae’r ymgyrch recriwtio genedlaethol i ddod o hyd i 9,000 o wirfoddolwyr ledled Cymru, yr Alban a Lloegr, a fydd wrth wraidd y Tour de France hanesyddol a’r Tour de France Femmes avec Zwift Grands Départs yn haf 2027 wedi cychwyn, wrth i’r porth ymgeisio agor yn swyddogol.
Y gwirfoddolwyr, a elwir yn swyddogol yn JOY Makers, yn unol â rhaglen effaith gymdeithasol Grand Départs GB, fydd curiad calon y ddwy ras, gan ddod â llawenydd beicio i gefnogwyr a chymunedau trwy gydol y chwe chymal, a helpu i sicrhau bod rasys mwyaf eiconig y gamp yn rhedeg yn ddi-dor.
Gallwch wneud cais nawr i fod yn JOY Maker ar gyfer unrhyw un o chwe chymal Grands Départs 2027 trwy www.letourgb.com/volunteer gyda chofrestriadau ar agor o ddydd Mercher 27 Mai hyd at ddydd Mawrth 1 Medi 2026.
Anogir unrhyw un sy’n 16 oed ac yn hŷn i wneud cais i fod yn JOY Maker, heb fod angen unrhyw brofiad gwirfoddoli blaenorol, i rannu yn y profiad unwaith mewn oes hwn – gan chwarae rhan yn yr hyn a fydd yn ddigwyddiad chwaraeon mwyaf poblogaidd Prydain, wrth greu atgofion parhaol a datblygu sgiliau newydd. Mae amrywiaeth o rolau i gefnogi gweithrediadau digwyddiadau a gwella profiad gwylwyr ar gael ar y Tour de France a’r Tour de France Femmes avec Zwift, gyda hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu.
I nodi cychwyniad y cyfnod derbyn ceisiadau a lansiad y rhaglen, ymunodd y cyflwynydd teledu a’r darlledwr Radzi Chinyanganya â grŵp o wirfoddolwyr presennol sy’n cefnogi’r Grands Départs.
Dywedodd Radzi Chinyanganya:
“Fyddwn i ddim lle rydw i heddiw pe na bawn i wedi bod yn wirfoddolwr pan oeddwn yn fy arddegau. Roeddwn i’n wirfoddolwr yn y cyfryngau, a nawr rwy’n gweithio yn y cyfryngau – rwy’n brawf byw bod gwirfoddoli yn gallu arwain at rywbeth anhygoel. Rydw i’n llawn cyffro wrth feddwl am bawb yn cymryd rhan – bydd yn brofiad bythgofiadwy.
“Gall gwybod beth rydych chi eisiau ei wneud pan fyddwch chi’n ifanc fod yn frawychus, ac mae hefyd yn anodd cael profiad gwaith ar hyn o bryd. Gall gwneud cais i fod yn JOY Maker eich helpu i archwilio cyfleoedd newydd a llywio eich llwybr gyrfa, a’r cyfan wrth fod yn rhan o greu hanes. Pwy bynnag ydych chi, beth bynnag yw eich oedran neu’ch cefndir – mae JOY Makers yn agored i bawb – os ydych chi’n unigolyn sydd am ddod â llawenydd, rydyn ni eich eisiau chi.”
Mae’r rhaglen JOY Makers wedi’i chynllunio i fod yn hygyrch i bawb, o’r rheini sydd â phrofiad o wirfoddoli mewn digwyddiadau mawr a gweithgareddau British Cycling i wirfoddolwyr tro cyntaf, yn enwedig o grwpiau gwirfoddoli sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys pobl ifanc 16–25 oed.
Bydd y rheini rhwng 18 a 25 oed yn gymwys i ymuno â’r cynllun Barod am Waith, a fydd yn cael ei lansio fel rhan o raglen effaith gymdeithasol JOY. Bydd y cynllun yn darparu pecyn cynhwysfawr o hyfforddiant sgiliau cyflogadwyedd a mentora sy’n canolbwyntio ar yrfa ar draws sawl sector. Bydd cyfuno hyn â’r profiad gwirfoddoli yn darparu cynnig profiad gwaith cyflawn ac ymarferol i bobl ifanc.
At ei gilydd, nod y rhaglen wirfoddoli a’r cynllun Barod am Waith yw gadael cydweithfa angerddol a medrus o wirfoddolwyr ar eu hôl, gan greu argraff hirbarhaol ar gyfer Grands Départs mewn cymunedau ledled y wlad. Yn ogystal â’r etifeddiaeth hon, mae British Cycling – gyda chefnogaeth partneriaid ar draws y tair gwlad – yn annog y llywodraeth i ymrwymo buddsoddiad cyfalaf hanfodol gwerth £30 miliwn i ddarparu ystod o gyfleusterau beicio newydd ac wedi’u huwchraddio ledled Prydain, gan gyrraedd cymunedau sydd heb eu gwasanaethu.
Byddai’r buddsoddiad hwn yn cynyddu’r rhaglen hynod lwyddiannus ‘Places to Ride’ – buddsoddiad gwerth £15m gan y Llywodraeth i gadarnhau etifeddiaeth Pencampwriaethau Beicio Ffordd y Byd Swydd Efrog UCI 2019 – gan gyflawni dros 150 o brosiectau beicio cymunedol ledled Lloegr, gan arbed £13.1m i’r GIG.
Wrth sôn am lansio’r porth ymgeisio, dywedodd Tracy Power, ar ran JOY, rhaglen effaith gymdeithasol Grand Départ GB 2027,
“Mae hwn yn gynnig gwirfoddoli gwirioneddol unigryw ac yn gyfle unwaith mewn oes i deimlo’r bwrlwm o fod yn rhan o ddigwyddiad sy’n creu hanes, wrth gwrdd â phobl newydd a dathlu eich cymuned leol.
“Bydd rhaglen JOY Makers yn creu craidd o wirfoddolwyr ymgysylltiedig ledled Prydain, sy’n barod i fod yn bresennol ac i ymroi, gan neilltuo eu hamser i ddod â digwyddiadau a gweithgareddau lleol yn fyw. Bydd hyn nid yn unig o fudd i’r gymuned feicio, ond hefyd yn helpu ein cymunedau lleol i ffynnu a hybu cyflogadwyedd.
“P’un a ydych chi wedi gwirfoddoli o’r blaen, yn beicio’n rheolaidd, neu’n newydd i wirfoddoli a’r byd beicio, mae croeso i bawb fel gwirfoddolwr JOY Maker. Allwn ni ddim aros nes eich cael chi’n rhan o’r tîm, ein helpu i ddathlu llawenydd beicio ac arddangos eich cymunedau trwy’r Grand Départs.”
I gael y diweddaraf am Grands Départs 2027 a chael rhagor o wybodaeth am bob un o’r chwe chymal, ewch i letourgb.com