TIGER YARD YN DATGELU MASNACHWYR NEWYDD YM MIS MEHEFIN - A RHAGLEN LAWN O DDIGWYDDIADAU AR GYFER YR HAF

Dydd Mercher, 24 Mehefin 2026


 

MAE’R LLEOLIAD YM MAE CAERDYDD YN CROESAWU CHANGS WOK, DOUGH THROWER A CHOW CARTEL WRTH I BINGO LINGO DDYCHWELYD AR GYFER SESIYNAU PRESWYL DROS YR HAF

Mae Tiger Yard wedi datgelu ei lein-yp diweddaraf o fasnachwyr gwadd ar gyfer mis Mehefin – gyda thri masnachwr bwyd stryd newydd yn ymuno â’r lleoliad ym Mae Caerdydd wrth iddo ddechrau un o’i hafau prysuraf eto. Wedi’i leoli ar lan y dŵr ym Mae Caerdydd, mae Tiger Yard wedi adeiladu enw da fel cyrchfan boblogaidd ar gyfer bwyd stryd annibynnol, diodydd achlysurol a phenwythnosau o ddigwyddiadau.

Yn ymuno â’r lleoliad y mis hwn mae Changs Wok, sy’n gweini prydau wok Tsieineaidd-Malayaidd dilys ‘wedi’u hysbrydoli gan flasau o adref’, a Dough Thrower, sy’n adnabyddus am wneud pizzas coed tân arobryn gyda chynhwysion lleol, y ddau ar gael tan 21 Mehefin. Yn ogystal, bydd Chow Cartel, sy’n gweini birria wedi’i goginio’n araf a’u tacos Tex-Mex, ar gael tan 28 Mehefin.

Maen nhw’n ymuno â lein-yp presennol y lleoliad o fasnachwyr preswyl, sef Dirty Bird, Fire & Flank, Meating Point a Dough & Co, wrth i Tiger Yard barhau i adeiladu ei gynnig Street Food Social; cysyniad penwythnos rheolaidd y lleoliad sy’n dwyn ynghyd ffefrynnau preswylwyr a chast newidiol o geginau gwadd. Mae’r Street Food Social yn digwydd bob dydd Gwener i ddydd Sul, gyda chroeso bob amser ar y drws.

Ochr yn ochr â’r cynnig bwyd a diod, mae Tiger Yard hefyd yn paratoi ar gyfer rhaglen ddigwyddiadau lawn dros yr haf, dan arweiniad preswyliad Bingo Lingo dros yr haf, sy’n dechrau ar 19 Mehefin ac yn digwydd hyd at 28 Awst.

Bydd ffanatics ffitrwydd yn falch o weld y clwb rhedeg pythefnosol Tiger Yard Run Club yn dechrau arni, gyda dyddiadau trwy fis Mehefin, Gorffennaf ac Awst; yn ogystal â’r sesiynau Pilates in the Yard sy’n digwydd ar draws misoedd yr haf, mewn cydweithrediad â Studio TARW.

Bydd lein-yp cerddoriaeth ac adloniant Tiger Yard hefyd yn dod â chyfres eclectig o ddigwyddiadau byw i Fae Caerdydd, gan gynnwys Shangri-La Presents: Dean Turnley, Shangri-La Presents: Omar+, Shangri-La Presents: Gaskin, Magic Disco – 80’s Tribute, Back to the 90s Festival, Outdoor Emo Festival, The Dualers, Country Club a’r All Day Indie Festival.

Dywedodd Tom Symonds, Rheolwr Lleoliad Tiger Yard“Yr haf yw’r adeg gorau i Tiger Yard, ac rydyn ni’n llawn cyffro i ddod â chymysgedd gwych arall o fasnachwyr gwadd annibynnol ar gyfer mis Mehefin. Ochr yn ochr â’r bwyd, mae gennyn ni haf enfawr o’n blaenau o ran y digwyddiadau – o sesiynau ffitrwydd a phenwythnosau cymdeithasol i gerddoriaeth fyw a Bingo Lingo yn preswylio yma dros yr haf. Mae yna fwrlwm go iawn o amgylch Bae Caerdydd yr adeg hon o’r flwyddyn.”

Am ragor o wybodaeth ac am docynnau i bob un o’r digwyddiadau hyn, ewch i: https://tiger-yard.com.